Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 25:15-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, wrthyf fi; Cymer ffiol win y digofaint yma o'm llaw, a dod hi i'w hyfed i'r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt.

16. A hwy a yfant, ac a frawychant, ac a wallgofant, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plith.

17. Yna mi a gymerais y ffiol o law yr Arglwydd, ac a'i rhoddais i'w hyfed i'r holl genhedloedd y rhai yr anfonasai yr Arglwydd fi atynt:

18. I Jerwsalem, ac i ddinasoedd Jwda, ac i'w brenhinoedd, ac i'w thywysogion: i'w gwneuthur hwynt yn ddiffeithwch, yn syndod, yn chwibaniad, ac yn felltith, fel y mae heddiw;

19. I Pharo brenin yr Aifft, ac i'w weision, ac i'w dywysogion, ac i'w holl bobl;

20. Ac i'r holl bobl gymysg, ac i holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac i Ascalon, ac Assa, ac Ecron, a gweddill Asdod;

21. I Edom, a Moab, a meibion Ammon;

22. I holl frenhinoedd Tyrus hefyd, ac i holl frenhinoedd Sidon, ac i frenhinoedd yr ynysoedd y rhai sydd dros y môr;

23. I Dedan, a Thema, a Bus; ac i bawb o'r cyrrau eithaf;

24. Ac i holl frenhinoedd Arabia, ac i holl frenhinoedd y bobl gymysg, y rhai sydd yn trigo yn yr anialwch;

25. Ac i holl frenhinoedd Simri, ac i holl frenhinoedd Elam, ac i holl frenhinoedd y Mediaid;

26. Ac i holl frenhinoedd y gogledd, agos a phell, bob un gyda'i gilydd; ac i holl deyrnasoedd y byd, y rhai sydd ar wyneb y ddaear: a brenin Sesach a yf ar eu hôl hwynt.

27. A thi a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Yfwch a meddwch, a chwydwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i'ch plith.

28. Ac os gwrthodant dderbyn y ffiol o'th law di i yfed, yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Diau yr yfwch:

29. Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni, ac a ddihengwch chwi yn ddigerydd? Na ddihengwch; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear, medd Arglwydd y lluoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 25