Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 4:14-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i'th gyfarfod; a phan y'th welo, efe a lawenycha yn ei galon.

15. Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyda'th enau di, a chyda'i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch.

16. A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle Duw iddo yntau.

17. Cymer hefyd y wialen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.

18. A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gad i mi fyned, atolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft, a gweled a ydynt eto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.

19. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i'r Aifft; oherwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes.

20. A Moses a gymerth ei wraig, a'i feibion, ac a'u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aifft: cymerodd Moses hefyd wialen Duw yn ei law.

21. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i'r Aifft, gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.

22. A dywed wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf‐anedig, yw Israel.

23. A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y'm gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf‐anedig.

24. A bu, ar y ffordd yn y llety, gyfarfod o'r Arglwydd ag ef, a cheisio ei ladd ef.

25. Ond Seffora a gymerth gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mab, ac a'i bwriodd i gyffwrdd â'i draed ef; ac a ddywedodd, Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi.

26. A'r Arglwydd a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, Priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.

27. A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i'r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu ag ef ym mynydd Duw, ac a'i cusanodd ef.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 4