A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gad i mi fyned, atolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft, a gweled a ydynt eto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.