Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esra 8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A dyma eu pennau‐cenedl hwynt, a'u hachau, y rhai a aeth i fyny gyda mi, yn nheyrnasiad Artacsercses y brenin, allan o Babilon.

2. O feibion Phinees; Gersom: o feibion Ithamar; Daniel: o feibion Dafydd; Hattus:

3. O feibion Sechaneia, o feibion Pharos; Sechareia: a chydag ef y rhifwyd wrth eu hachau gant a deg a deugain o wrywiaid.

4. O feibion Pahath‐Moab; Elihoenai mab Seraheia, a chydag ef ddau cant o wrywiaid.

5. O feibion Sechaneia; mab Jahasiel, a chydag ef dri chant o wrywiaid.

6. O feibion Adin hefyd; Ebed mab Jonathan, a chydag ef ddeg a deugain o wrywiaid.

7. Ac o feibion Elam; Jesaia mab Athaleia, a chydag ef ddeg a thrigain o wrywiaid.

8. Ac o feibion Seffatia; Sebadeia mab Michael, a chydag ef bedwar ugain o wrywiaid.

9. O feibion Joab; Obadeia mab Jehiel, a chydag ef ddau cant a deunaw o wrywiaid.

10. Ac o feibion Selomith; mab Josiffia, a chydag ef wyth ugain o wrywiaid.

11. Ac o feibion Bebai; Sechareia mab Bebai, a chydag ef wyth ar hugain o wrywiaid.

12. Ac o feibion Asgad; Johanan mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab a chant.

13. Ac o feibion olaf Adonicam, dyma hefyd eu henwau hwynt, Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a chyda hwynt drigain o wrywiaid.

14. Ac o feibion Bigfai; Uthai, a Sabbud, a chyda hwynt ddeg a thrigain o wrywiaid.

15. A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa; ac yno y gwersyllasom ni dridiau: a mi a ystyriais y bobl, a'r offeiriaid, ond ni chefais yno neb o feibion Lefi.

16. Yna yr anfonais am Elieser, am Ariel, am Semaia, ac am Elnathan, ac am Jarib, ac am Elnathan, ac am Nathan, ac am Sechareia, ac am Mesulam, y penaethiaid; ac am Joiarib, ac am Elnathan, y rhai doethion:

17. A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido, pennaeth yn y fan a elwir Chasiffia; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i'w traethu wrth Ido, a'i frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Chasiffia, fel y dygent atom ni weinidogion i dŷ ein Duw.

18. A hwy a ddygasant atom, fel yr oedd daionus law ein Duw arnom ni, ŵr deallgar o feibion Mahli, fab Lefi, fab Israel, a Serebeia, a'i feibion, a'i frodyr, ddeunaw;

19. A Hasabeia, a chydag ef Jesaia o feibion Merari, a'i frodyr, a'u meibion, ugain;

20. Ac o'r Nethiniaid, a roddasai Dafydd a'r tywysogion yng ngwasanaeth y Lefiaid, dau cant ac ugain o Nethiniaid: hwynt oll a hysbysasid erbyn eu henwau.

21. Ac yno, wrth afon Ahafa, y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio gerbron ein Duw ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i'n plant, ac i'n golud oll.

22. Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch, i'n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a'i ceisiant ef, a'i gryfder a'i ddicter yn erbyn pawb a'i gadawant ef.

23. Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â'n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd arnom.

24. Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebeia, Hasabeia, a deg o'u brodyr gyda hwynt;

25. Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a'r aur, a'r llestri, sef offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a'i gynghoriaid, a'i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno.

26. Ie, pwysais i'w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o arian, ac o lestri arian gan talent, a chan talent o aur;

27. Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau; a dau lestr o bres melyn da, mor brydferth ag aur.

28. A dywedais wrthynt, Sanctaidd ydych chwi i'r Arglwydd; a'r llestri ydynt sanctaidd; yr arian hefyd a'r aur sydd offrwm gwirfodd i Arglwydd Dduw eich tadau.

29. Gwyliwch, a chedwch hwynt, hyd oni phwysoch hwynt gerbron penaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid, a phennau‐cenedl Israel yn Jerwsalem, yng nghelloedd tŷ yr Arglwydd.

30. Felly yr offeiriaid a'r Lefiaid a gymerasant bwys yr arian, a'r aur, a'r llestri, i'w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw ni.

31. A chychwynasom oddi wrth afon Ahafa, ar y deuddegfed dydd o'r mis cyntaf, i fyned i Jerwsalem: a llaw ein Duw oedd arnom ni, ac a'n gwaredodd o law y gelyn, a'r rhai oedd yn cynllwyn ar y ffordd.

32. A ni a ddaethom i Jerwsalem, ac a arosasom yno dridiau.

33. Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian, a'r aur, a'r llestri, yn nhŷ ein Duw ni, trwy law Meremoth mab Ureia yr offeiriad; ac Eleasar mab Phinees oedd gydag ef; a Josabad mab Jesua, a Noadeia mab Binnui, y Lefiaid, oedd gyda hwynt;

34. Wrth rifedi, ac wrth bwys pob un: a'r holl bwysau a ysgrifennwyd y pryd hwnnw.

35. Meibion y gaethglud, y rhai a ddaeth o'r caethiwed, a offrymasant boethoffrymau i Dduw Israel, sef deuddeg o fustych dros holl Israel, onid pedwar pum ugain o hyrddod, namyn tri pedwar ugain o ŵyn, a deuddeg o fychod yn bech‐aberth: y cwbl oedd yn offrwm poeth i'r Arglwydd.

36. A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin, a thywysogion y tu hwnt i'r afon: a hwy a gynorthwyasant y bobl, a thŷ Duw.