Meibion y gaethglud, y rhai a ddaeth o'r caethiwed, a offrymasant boethoffrymau i Dduw Israel, sef deuddeg o fustych dros holl Israel, onid pedwar pum ugain o hyrddod, namyn tri pedwar ugain o ŵyn, a deuddeg o fychod yn bech‐aberth: y cwbl oedd yn offrwm poeth i'r Arglwydd.