Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esra 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna gwrthwynebwyr Jwda a Benjamin a glywsant fod meibion y gaethglud yn adeiladu y deml i Arglwydd Dduw Israel;

2. Ac a ddaethant at Sorobabel, ac at y pennau‐cenedl, ac a ddywedasant wrthynt, Adeiladwn gyda chwi: canys fel chwithau y ceisiwn eich Duw chwi; ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu, er dyddiau Esarhadon brenin Assyria, yr hwn a'n dug ni i fyny yma.

3. Eithr dywedodd Sorobabel a Jesua, a'r rhan arall o bennau‐cenedl Israel, wrthynt, Nid yw i chwi ac i ninnau adeiladu tŷ i'n Duw ni; eithr nyni a gyd-adeiladwn i Arglwydd Dduw Israel, megis y'n gorchmynnodd y brenin Cyrus, brenin Persia.

4. A phobl y wlad oedd yn anghysuro pobl Jwda, ac yn eu rhwystro hwy i adeiladu,

5. Ac yn cyflogi cynghorwyr yn eu herbyn hwynt, i ddiddymu eu cyngor hwynt, holl ddyddiau Cyrus brenin Persia, a hyd deyrnasiad Dareius brenin Persia.

6. Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn nechreuad ei deyrnasiad ef, yr ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem.

7. Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam, Mithredath, Tabeel, a'r rhan arall o'u cyfeillion, at Artacsercses brenin Persia; ac ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg, ac a eglurwyd yn Syriaeg.

8. Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifennydd a ysgrifenasant lythyr yn erbyn Jerwsalem at Artacsercses y brenin, fel hyn:

9. Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a'r rhan arall o'u cyfeillion, y Dinaiaid, yr Affarsathchiaid, y Tarpeliaid, yr Affarsiaid, yr Archefiaid, y Babiloniaid, y Susanchiaid, y Dehafiaid, yr Elamiaid,

10. A'r rhan arall o'r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog, ac a osododd efe yn ninasoedd Samaria, a'r rhan arall tu yma i'r afon, a'r amser a'r amser.

11. Dyma ystyr y llythyr a anfonasant ato ef, sef at Artacsercses y brenin; Dy wasanaethwyr o'r tu yma i'r afon, a'r amser a'r amser.

12. Bid hysbys i'r brenin, fod yr Iddewon a ddaethant i fyny oddi wrthyt ti atom ni, wedi dyfod i Jerwsalem, ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar ddrygionus, a'r muriau a sylfaenasant hwy, ac a gydwniasant y sylfaenau.

13. Yn awr bydded hysbys i'r brenin, os adeiledir y ddinas hon, a gorffen ei chaerau, na roddant na tholl, na theyrnged, na threth; felly y drygi drysor y brenhinoedd.

14. Ac yn awr oherwydd ein bod ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y brenin, ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin; am hynny yr anfonasom ac yr hysbysasom i'r brenin,

15. Fel y ceisier yn llyfr historïau dy dadau: a thi a gei yn llyfr yr historïau, ac a elli wybod, fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar, niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod yn gwneuthur brad‐fwriad o fewn hon er ys talm: am hynny y dinistriwyd y ddinas hon.

16. Yr ydym yn hysbysu i'r brenin, os y ddinas hon a adeiledir, a'r muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o'r tu yma i'r afon.

17. Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a'r rhan arall o'u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria, ac at y lleill o'r tu hwnt i'r afon, Tangnefedd, a'r amser a'r amser.

18. Y llythyr a anfonasoch ataf, a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron.

19. A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd‐dod a gwrthryfel.

20. A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb o'r tu hwnt i'r afon; ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth.

21. Yn awr rhoddwch orchymyn, i beri i'r gwŷr hynny beidio, ac nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn eto.

22. A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd?

23. Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a'u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder.

24. Yna y peidiodd gwaith tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem; ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.