Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 46:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Porth y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain, fydd yn gaead y chwe diwrnod gwaith; ond ar y dydd Saboth yr agorir ef, ac efe a agorir ar ddydd y newyddloer.

2. A'r tywysog a ddaw ar hyd ffordd cyntedd y porth oddi allan, ac a saif wrth orsing y porth; a'r offeiriaid a ddarparant ei boethoffrwm ef a'i aberthau hedd, ac efe a addola wrth riniog y porth: ac a â allan: a'r porth ni chaeir hyd yr hwyr.

3. Pobl y tir a addolant hefyd wrth ddrws y porth hwnnw, ar y Sabothau ac ar y newyddloerau, o flaen yr Arglwydd.

4. A'r offrwm poeth a offrymo y tywysog i'r Arglwydd ar y dydd Saboth, fydd chwech o ŵyn perffaith‐gwbl, a hwrdd perffaith‐gwbl:

5. A bwyd‐offrwm o effa gyda'r hwrdd, a rhodd ei law o fwyd‐offrwm gyda'r ŵyn, a hin o olew gyda'r effa.

6. Ac ar ddydd y newyddloer, bustach ieuanc perffaith‐gwbl, a chwech o ŵyn, a hwrdd; perffaith‐gwbl fyddant.

7. Ac efe a ddarpara effa gyda'r bustach, ac effa gyda'r hwrdd, yn fwyd‐offrwm; a chyda'r ŵyn fel y cyrhaeddo ei law ef, a hin o olew gyda phob effa.

8. A phan ddelo y tywysog i mewn, ar hyd ffordd cyntedd y porth y daw i mewn, ac ar hyd y ffordd honno yr â allan.

9. A phan ddelo pobl y tir o flaen yr Arglwydd ar y gwyliau gosodedig, yr hwn a ddelo i mewn ar hyd ffordd porth y gogledd i addoli, a â allan i ffordd porth y deau; a'r hwn a ddelo ar hyd ffordd porth y deau, a â allan ar hyd ffordd porth y gogledd: na ddychweled i ffordd y porth y daeth i mewn trwyddo, eithr eled allan ar ei gyfer.

10. A phan ddelont hwy i mewn, y daw y tywysog yn eu mysg hwy; a phan elont allan, yr â yntau allan.

11. Ac ar y gwyliau a'r uchel wyliau hefyd y bydd y bwyd‐offrwm o effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a rhodd ei law gyda'r ŵyn, a hin o olew gyda'r effa.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 46