A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd, neu aberthau hedd gwirfodd i'r Arglwydd, yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua'r dwyrain, ac efe a ddarpara ei boethoffrwm a'i aberthau hedd, fel y gwnaeth ar y dydd Saboth; ac a â allan: ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan.