Eseciel 46:1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Porth y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain, fydd yn gaead y chwe diwrnod gwaith; ond ar y dydd Saboth yr agorir ef, ac efe a agorir ar ddydd y newyddloer.