Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 4:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Aphan glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron, ei ddwylo a laesasant, a holl Israel a ofnasant.

2. A dau ŵr oedd gan fab Saul yn dywysogion ar dorfoedd: enw un oedd Baana, ac enw yr ail Rechab, meibion Rimmon y Beerothiad, o feibion Benjamin: (canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin:

3. A'r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.)

4. Ac i Jonathan, mab Saul, yr oedd mab cloff o'i draed. Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel; a'i famaeth a'i cymerth ef ac a ffodd: a bu, wrth frysio ohoni i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A'i enw ef oedd Meffiboseth.

5. A meibion Rimmon y Beerothiad, Rechab a Baana, a aethant ac a ddaethant, pan wresogasai y dydd, i dŷ Isboseth; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd.

6. Ac wele, hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ, fel rhai yn prynu gwenith; a hwy a'i trawsant ef dan y bumed asen: a Rechab a Baana ei frawd a ddianghasant.

7. A phan ddaethant i'r tŷ, yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely: a hwy a'i trawsant ef, ac a dorasant ei ben ef; ac a gymerasant ei ben ef, ac a gerddasant trwy'r gwastadedd ar hyd y nos.

8. A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron; ac a ddywedasant wrth y brenin, Wele ben Isboseth mab Saul, dy elyn di, yr hwn a geisiodd dy einioes di: a'r Arglwydd a roddes i'm harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei had.

9. A Dafydd a atebodd Rechab a Baana ei frawd, meibion Rimon y Beerothiad, ac a ddywedodd wrthynt, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 4