Ac i Jonathan, mab Saul, yr oedd mab cloff o'i draed. Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel; a'i famaeth a'i cymerth ef ac a ffodd: a bu, wrth frysio ohoni i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A'i enw ef oedd Meffiboseth.