Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 17:14-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A dywedodd Absalom, a holl wŷr Israel, Gwell yw cyngor Husai yr Arciad na chyngor Ahitoffel. Canys yr Arglwydd a ordeiniasai ddiddymu cyngor da Ahitoffel, fel y dygai yr Arglwydd ddrwg ar Absalom.

15. Yna y dywedodd Husai wrth Sadoc ac wrth Abiathar yr offeiriaid, Fel hyn ac fel hyn y cynghorodd Ahitoffel i Absalom ac i henuriaid Israel: ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau.

16. Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan, a mynegwch i Dafydd, gan ddywedyd, Nac aros dros nos yng ngwastadedd yr anialwch, ond gan fyned dos; rhag difa'r brenin a'r holl bobl sydd gydag ef.

17. Jonathan hefyd ac Ahimaas oedd yn sefyll wrth En‐rogel; ac fe aeth llances ac a fynegodd iddynt. Hwythau a aethant ac a fynegasant i'r brenin Dafydd: canys ni allent hwy ymddangos i fyned i'r ddinas.

18. Eto llanc a'u gwelodd hwynt, ac a fynegodd i Absalom: ond hwy a aethant ymaith ill dau yn fuan, ac a ddaethant i dŷ gŵr yn Bahurim, ac iddo ef yr oedd pydew yn ei gyntedd; a hwy a aethant i waered yno.

19. A'r wraig a gymerth ac a ledodd glawr ar wyneb y pydew, ac a daenodd arno falurion ŷd; fel na wybuwyd y peth.

20. A phan ddaeth gweision Absalom at y wraig i'r tŷ, hwy a ddywedasant, Pa le y mae Ahimaas a Jonathan? A'r wraig a ddywedodd wrthynt, Hwy a aethant dros yr aber ddwfr. A phan geisiasant, ac nas cawsant hwynt, yna y dychwelasant i Jerwsalem.

21. Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymaith, yna y lleill a ddaethant i fyny o'r pydew, ac a aethant ac a fynegasant i'r brenin Dafydd; ac a ddywedasant wrth Dafydd, Cyfodwch, ac ewch yn fuan dros y dwfr; canys fel hyn y cynghorodd Ahitoffel yn eich erbyn chwi.

22. Yna y cododd Dafydd a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a aethant dros yr Iorddonen: erbyn goleuo'r bore nid oedd un yn eisiau a'r nad aethai dros yr Iorddonen.

23. A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i'w dŷ ei hun, i'w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 17