2 Samuel 17:23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i'w dŷ ei hun, i'w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad.