A dywedodd Absalom, a holl wŷr Israel, Gwell yw cyngor Husai yr Arciad na chyngor Ahitoffel. Canys yr Arglwydd a ordeiniasai ddiddymu cyngor da Ahitoffel, fel y dygai yr Arglwydd ddrwg ar Absalom.