Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 8:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna Eliseus a lefarodd wrth y wraig y bywhasai efe ei mab, gan ddywedyd, Cyfod, a dos, ti a'th dylwyth, ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio: canys yr Arglwydd a alwodd am newyn, a hwnnw a ddaw ar y wlad saith mlynedd.

2. A'r wraig a gyfododd, ac a wnaeth yn ôl gair gŵr Duw: a hi a aeth, hi a'i thylwyth, ac a ymdeithiodd yng ngwlad y Philistiaid saith mlynedd.

3. Ac ymhen y saith mlynedd, y wraig a ddychwelodd o wlad y Philistiaid: a hi a aeth i weiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thir.

4. A'r brenin oedd yn ymddiddan â Gehasi gwas gŵr Duw, gan ddywedyd, Adrodd i mi, atolwg, yr holl bethau mawr a wnaeth Eliseus.

5. Ac fel yr oedd efe yn mynegi i'r brenin y modd y bywhasai efe y marw, yna wele y wraig y bywhasai efe ei mab yn gweiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thir. A Gehasi a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, dyma'r wraig, a dyma ei mab yr hwn a ddarfu i Eliseus ei fywhau.

6. A'r brenin a ofynnodd i'r wraig; a hithau a fynegodd iddo ef. A'r brenin a roddodd iddi ryw ystafellydd, gan ddywedyd, Dod drachefn yr hyn oll oedd eiddi hi, a holl gnwd y maes, o'r dydd y gadawodd hi y wlad hyd y pryd hwn.

7. A daeth Eliseus i Damascus: a Benhadad brenin Syria oedd glaf; a mynegwyd iddo ef, gan ddywedyd, Daeth gŵr Duw yma.

8. A'r brenin a ddywedodd wrth Hasael, Cymer anrheg yn dy law, a dos i gyfarfod â gŵr Duw; ac ymofyn â'r Arglwydd trwyddo ef, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o'r clefyd hwn?

9. Felly Hasael a aeth i'w gyfarfod ef, ac a gymerth anrheg yn ei law, a phob peth a'r a oedd dda o Damascus, sef llwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o'i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a'm hanfonodd atat, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o'r clefyd hwn?

10. Ac Eliseus a ddywedodd wrtho, Dos, a dywed wrtho, Diau y gelli fyw: eto yr Arglwydd a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau.

11. Ac efe a osododd ei wyneb, ac a ddaliodd sylw arno, nes cywilyddio ohono ef: a gŵr Duw a wylodd.

12. A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau, Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a'u gwŷr ieuainc a leddi â'r cleddyf, a'u plant a bwyi, a'u gwragedd beichiogion a rwygi.

13. A Hasael a ddywedodd, Pa beth! ai ci yw dy was, fel y gwnelai efe y mawr beth hyn? Ac Eliseus a ddywedodd, Yr Arglwydd a ddangosodd i mi y byddi di yn frenin ar Syria.

14. Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus, ac a ddaeth at ei arglwydd; yr hwn a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt ti? Ac efe a atebodd, Efe a ddywedodd wrthyf, y byddit ti byw yn ddiau.

15. A thrannoeth efe a gymerth wrthban, ac a'i gwlychodd mewn dwfr, ac a'i lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 8