Felly Hasael a aeth i'w gyfarfod ef, ac a gymerth anrheg yn ei law, a phob peth a'r a oedd dda o Damascus, sef llwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o'i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a'm hanfonodd atat, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o'r clefyd hwn?