2 Brenhinoedd 8:1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Yna Eliseus a lefarodd wrth y wraig y bywhasai efe ei mab, gan ddywedyd, Cyfod, a dos, ti a'th dylwyth, ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio: canys yr Arglwydd a alwodd am newyn, a hwnnw a ddaw ar y wlad saith mlynedd.