Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna Eliseus a ddywedodd, Gwrandewch air yr Arglwydd: Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Ynghylch y pryd hwn yfory y gwerthir sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, ym mhorth Samaria.

2. Yna tywysog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei law a atebodd ŵr Duw, ac a ddywedodd, Wele, pe gwnelai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a'i gweli â'th lygaid, ond ni fwytei ohono.

3. Ac yr oedd pedwar gŵr gwahanglwyfus wrth ddrws y porth, a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Paham yr ydym ni yn aros yma nes ein meirw?

4. Os dywedwn ni, Awn i mewn i'r ddinas, newyn sydd yn y ddinas, a ni a fyddwn feirw yno; ac os trigwn yma, ni a fyddwn feirw hefyd. Am hynny deuwch yn awr, ac awn i wersyll y Syriaid: o chadwant ni yn fyw, byw fyddwn; ac os lladdant ni, byddwn feirw.

5. A hwy a gyfodasant ar doriad dydd i fyned i wersyll y Syriaid. A phan ddaethant at gwr eithaf gwersyll y Syriaid, wele, nid oedd neb yno.

6. Canys yr Arglwydd a barasai i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau, a thrwst meirch, trwst llu mawr: a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Wele, brenin Israel a gyflogodd i'n herbyn ni frenhinoedd yr Hethiaid, a brenhinoedd yr Aifft, i ddyfod arnom ni.

7. Am hynny hwy a gyfodasant, ac a ffoesant, ar lasiad dydd, ac a adawsant eu pebyll, a'u meirch, a'u hasynnod, sef y gwersyll fel yr ydoedd, ac a ffoesant am eu heinioes.

8. A phan ddaeth y rhai gwahanglwyfus hyn hyd gwr eithaf y gwersyll, hwy a aethant i un babell, ac a fwytasant, ac a yfasant, ac a gymerasant oddi yno arian, ac aur, a gwisgoedd, ac a aethant, ac a'i cuddiasant, ac a ddychwelasant; ac a aethant i babell arall, ac a gymerasant oddi yno, ac a aethant, ac a'i cuddiasant.

9. Yna y dywedodd y naill wrth y llall, Nid ydym ni yn gwneuthur yn iawn; y dydd hwn sydd ddydd llawen‐chwedl, ac yr ydym ni yn tewi â sôn; os arhoswn ni hyd oleuni y bore, rhyw ddrwg a ddigwydd i ni: deuwch gan hynny yn awr, ac awn fel y mynegom i dŷ y brenin.

10. Felly hwy a ddaethant, ac a waeddasant ar borthor y ddinas; a hwy a fynegasant iddynt, gan ddywedyd, Daethom i wersyll y Syriaid, ac wele, nid oedd yno neb, na llais dyn, ond y meirch yn rhwym, a'r asynnod yn rhwym, a'r pebyll megis yr oeddynt o'r blaen.

11. Ac efe a alwodd ar y porthorion; a hwy a'i mynegasant i dŷ y brenin oddi fewn.

12. A'r brenin a gyfododd liw nos, ac a ddywedodd wrth ei weision, Mynegaf yn awr i chwi yr hyn a wnaeth y Syriaid i ni. Gwyddent mai newynog oeddem ni; am hynny yr aethant ymaith o'r gwersyll i ymguddio yn y maes, gan ddywedyd, Pan ddelont hwy allan o'r ddinas, ni a'u daliwn hwynt yn fyw, ac a awn i mewn i'r ddinas.

13. Ac un o'r gweision a atebodd ac a ddywedodd, Cymer yn awr bump o'r meirch a adawyd, y rhai a adawyd yn y ddinas, (wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a arosasant ynddi; wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a ddarfuant;) ac anfonwn, ac edrychwn.

14. Felly hwy a gymerasant feirch dau gerbyd: a'r brenin a anfonodd ar ôl gwersyll y Syriaid, gan ddywedyd, Ewch ac edrychwch.

15. A hwy a aethant ar eu hôl hwynt hyd yr Iorddonen, ac wele, yr holl ffordd ydoedd yn llawn o ddillad a llestri, y rhai a fwriasai y Syriaid ymaith wrth frysio: a'r cenhadau a ddychwelasant ac a fynegasant i'r brenin.

16. A'r bobl a aethant allan, ac a anrheithiasant wersyll y Syriaid: a bu sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, yn ôl gair yr Arglwydd.

17. A'r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwyso ar ei law i wylied ar y porth: a'r bobl a'i mathrasant ef yn y porth, ac efe fu farw, megis y llefarasai gŵr Duw, yr hwn a ddywedasai hynny pan ddaeth y brenin i waered ato ef.

18. A bu megis y llefarasai gŵr Duw wrth y brenin, gan ddywedyd, Dau sat o haidd er sicl, a sat o beilliaid er sicl, fydd y pryd hwn yfory ym mhorth Samaria.

19. A'r tywysog a atebasai ŵr Duw, ac a ddywedasai, Wele, pe gwnelai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a'i gweli â'th lygaid, ond ni fwytei ohono.

20. Ac felly y bu iddo ef: canys y bobl a'i sathrasant ef yn y porth, ac efe a fu farw.