Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw: ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw.

2. Yna efe a drodd ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd,

3. Atolwg, Arglwydd, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac â chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr.

4. A chyn myned o Eseia allan i'r cyntedd canol, daeth gair yr Arglwydd ato, gan ddywedyd,

5. Dychwel, a dywed wrth Heseceia blaenor fy mhobl i, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele fi yn dy iacháu di; y trydydd dydd yr ei di i fyny i dŷ yr Arglwydd.

6. A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd, ac a'th waredaf di a'r ddinas hon o law brenin Asyria: diffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.

7. A dywedodd Eseia, Cymerwch swp o ffigys. A hwy a gymerasant, ac a'i gosodasant ar y cornwyd, ac efe a aeth yn iach.

8. A Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Pa arwydd fydd yr iachâ yr Arglwydd fi, ac yr af fi i fyny i dŷ yr Arglwydd y trydydd dydd?

9. Ac Eseia a ddywedodd, Hyn fydd i ti yn argoel oddi wrth yr Arglwydd, y gwna yr Arglwydd y gair a lefarodd efe: A â y cysgod ddeg o raddau ymlaen, neu a ddychwel efe ddeg o raddau yn ôl?

10. A Heseceia a ddywedodd, Hawdd yw i'r cysgod ogwyddo ddeg o raddau: nid felly, ond dychweled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau.

11. Ac Eseia y proffwyd a lefodd ar yr Arglwydd: ac efe a drodd y cysgod ar hyd y graddau, ar hyd y rhai y disgynasai efe yn neial Ahas, ddeg o raddau yn ei ôl.

12. Yn yr amser hwnnw yr anfonodd Berodach‐Baladan, mab Baladan brenin Babilon, lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai fod Heseceia yn glaf.

13. A Heseceia a wrandawodd arnynt, ac a ddangosodd iddynt holl dŷ ei drysor, yr arian, a'r aur, a'r peraroglau, a'r olew gorau, a holl dŷ ei arfau, a'r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a'r nas dangosodd Heseceia iddynt.

14. Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat ti? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant hwy, sef o Babilon.

15. Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy: nid oes dim yn fy nhrysorau i nas dangosais iddynt hwy.

16. Ac Eseia a ddywedodd wrth Heseceia, Gwrando air yr Arglwydd.

17. Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a'r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr Arglwydd.

18. Cymerant hefyd o'th feibion di, y rhai a ddaw allan ohonot, y rhai a genhedli di, a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon.

19. Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Da yw gair yr Arglwydd, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i?

20. A'r rhan arall o hanes Heseceia, a'i holl rym ef, ac fel y gwnaeth efe y llyn, a'r pistyll, ac y dug efe y dyfroedd i'r ddinas, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

21. A Heseceia a hunodd gyda'i dadau: a Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.