Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn ei ddyddiau ef y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny, a Joacim a fu was iddo ef dair blynedd: yna efe a drodd, ac a wrthryfelodd yn ei erbyn ef.

2. A'r Arglwydd a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o'r Caldeaid, a thorfoedd o'r Syriaid, a thorfoedd o'r Moabiaid, a thorfoedd o feibion Ammon, ac a'u hanfonodd hwynt yn erbyn Jwda i'w dinistrio hi, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei weision y proffwydi.

3. Yn ddiau trwy orchymyn yr Arglwydd y bu hyn yn erbyn Jwda, i'w bwrw allan o'i olwg ef, o achos pechodau Manasse, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe;

4. A hefyd oherwydd y gwaed gwirion a ollyngodd efe: canys efe a lanwodd Jerwsalem o waed gwirion; a hynny ni fynnai yr Arglwydd ei faddau.

5. A'r rhan arall o hanes Joacim, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

6. A Joacim a hunodd gyda'i dadau; a Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

7. Ac ni ddaeth brenin yr Aifft mwyach o'i wlad: canys brenin Babilon a ddygasai yr hyn oll a oedd eiddo brenin yr Aifft, o afon yr Aifft hyd afon Ewffrates.

8. Mab deunaw mlwydd oedd Joachin pan aeth efe yn frenin; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Nehusta, merch Elnathan o Jerwsalem.

9. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.

10. Yn yr amser hwnnw y daeth gweision Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny yn erbyn Jerwsalem, a gwarchaewyd ar y ddinas.

11. A Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth yn erbyn y ddinas, a'i weision ef a warchaeasant arni hi.

12. A Joachin brenin Jwda a aeth allan at frenin Babilon, efe, a'i fam, a'i weision, a'i dywysogion, a'i ystafellyddion: a brenin Babilon a'i daliodd ef yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad.

13. Ac efe a ddug oddi yno holl drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac a dorrodd yr holl lestri aur a wnaethai Solomon brenin Israel yn nheml yr Arglwydd, fel y llefarasai yr Arglwydd.

14. Ac efe a ddug ymaith holl Jerwsalem, yr holl dywysogion hefyd, a'r holl gedyrn nerthol, sef deng mil o gaethion, a phob saer, a gof: ni adawyd ond pobl dlodion y wlad yno.

15. Efe hefyd a ddug ymaith Joachin i Babilon, a mam y brenin, a gwragedd y brenin, a'i ystafellyddion, a chedyrn y wlad a ddug efe i gaethiwed o Jerwsalem i Babilon.

16. A'r holl wŷr nerthol, sef saith mil; ac o seiri a gofaint, mil, y rhai oll oedd gryfion a rhyfelwyr: hwynt‐hwy a ddug brenin Babilon yn gaeth i Babilon.

17. A brenin Babilon a osododd Mataneia brawd ei dad ef yn frenin yn ei le ef, ac a drodd ei enw ef yn Sedeceia.

18. Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.

19. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joachin.

20. Canys trwy ddigofaint yr Arglwydd y bu hyn yn Jerwsalem ac yn Jwda, nes iddo eu taflu hwynt allan o'i olwg, fod i Sedeceia wrthryfela yn erbyn brenin Babilon.