Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 7:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A gwŷr Ciriath-jearim a ddaethant, ac a gyrchasant i fyny arch yr Arglwydd, ac a'i dygasant hi i dŷ Abinadab, yn y bryn, ac a sancteiddiasant Eleasar ei fab ef i gadw arch yr Arglwydd.

2. Ac o'r dydd y trigodd yr arch yn Ciriath-jearim, y bu ddyddiau lawer; nid amgen nag ugain mlynedd: a holl dŷ Israel a alarasant ar ôl yr Arglwydd.

3. A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch chwi at yr Arglwydd â'ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau dieithr o'ch mysg, ac Astaroth, a pharatowch eich calon at yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef yn unig; ac efe a'ch gwared chwi o law y Philistiaid.

4. Yna meibion Israel a fwriasant ymaith Baalim ac Astaroth, a'r Arglwydd yn unig a wasanaethasant.

5. A dywedodd Samuel, Cesglwch holl Israel i Mispa, a mi a weddïaf drosoch chwi at yr Arglwydd.

6. A hwy a ymgasglasant i Mispa, ac a dynasant ddwfr, ac a'i tywalltasant gerbron yr Arglwydd, ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a ddywedasant yno, Pechasom yn erbyn yr Arglwydd. A Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispa.

7. A phan glybu y Philistiaid fod meibion Israel wedi ymgasglu i Mispa, arglwyddi'r Philistiaid a aethant i fyny yn erbyn Israel: a meibion Israel a glywsant, ac a ofnasant rhag y Philistiaid.

8. A meibion Israel a ddywedasant wrth Samuel, Na thaw di â gweiddi drosom at yr Arglwydd ein Duw, ar iddo ef ein gwared ni o law y Philistiaid.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 7