A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch chwi at yr Arglwydd â'ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau dieithr o'ch mysg, ac Astaroth, a pharatowch eich calon at yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef yn unig; ac efe a'ch gwared chwi o law y Philistiaid.