Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A gwŷr Ciriath-jearim a ddaethant, ac a gyrchasant i fyny arch yr Arglwydd, ac a'i dygasant hi i dŷ Abinadab, yn y bryn, ac a sancteiddiasant Eleasar ei fab ef i gadw arch yr Arglwydd.

2. Ac o'r dydd y trigodd yr arch yn Ciriath-jearim, y bu ddyddiau lawer; nid amgen nag ugain mlynedd: a holl dŷ Israel a alarasant ar ôl yr Arglwydd.

3. A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch chwi at yr Arglwydd â'ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau dieithr o'ch mysg, ac Astaroth, a pharatowch eich calon at yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef yn unig; ac efe a'ch gwared chwi o law y Philistiaid.

4. Yna meibion Israel a fwriasant ymaith Baalim ac Astaroth, a'r Arglwydd yn unig a wasanaethasant.

5. A dywedodd Samuel, Cesglwch holl Israel i Mispa, a mi a weddïaf drosoch chwi at yr Arglwydd.

6. A hwy a ymgasglasant i Mispa, ac a dynasant ddwfr, ac a'i tywalltasant gerbron yr Arglwydd, ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a ddywedasant yno, Pechasom yn erbyn yr Arglwydd. A Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispa.

7. A phan glybu y Philistiaid fod meibion Israel wedi ymgasglu i Mispa, arglwyddi'r Philistiaid a aethant i fyny yn erbyn Israel: a meibion Israel a glywsant, ac a ofnasant rhag y Philistiaid.

8. A meibion Israel a ddywedasant wrth Samuel, Na thaw di â gweiddi drosom at yr Arglwydd ein Duw, ar iddo ef ein gwared ni o law y Philistiaid.

9. A Samuel a gymerth laethoen, ac a'i hoffrymodd ef i gyd yn boethoffrwm i'r Arglwydd: a Samuel a waeddodd ar yr Arglwydd dros Israel; a'r Arglwydd a'i gwrandawodd ef.

10. A phan oedd Samuel yn offrymu'r poethoffrwm, y Philistiaid a nesasant i ryfel yn erbyn Israel: a'r Arglwydd a daranodd â tharanau mawr yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnnw, ac a'u drylliodd hwynt, a lladdwyd hwynt o flaen Israel.

11. A gwŷr Israel a aethant o Mispa, ac a erlidiasant y Philistiaid, ac a'u trawsant hyd oni ddaethant dan Bethcar.

12. A chymerodd Samuel faen, ac a'i gosododd rhwng Mispa a Sen, ac a alwodd ei enw ef Ebeneser; ac a ddywedodd, Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd nyni.

13. Felly y darostyngwyd y Philistiaid, ac ni chwanegasant mwyach ddyfod i derfyn Israel: a llaw yr Arglwydd a fu yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Samuel.

14. A'r dinasoedd, y rhai a ddygasai y Philistiaid oddi ar Israel, a roddwyd adref i Israel, o Ecron hyd Gath; ac Israel a ryddhaodd eu terfynau o law y Philistiaid: ac yr oedd heddwch rhwng Israel a'r Amoriaid.

15. A Samuel a farnodd Israel holl ddyddiau ei fywyd.

16. Aeth hefyd o flwyddyn i flwyddyn oddi amgylch i Bethel, a Gilgal, a Mispa, ac a farnodd Israel yn yr holl leoedd hynny.

17. A'i ddychwelfa ydoedd i Rama; canys yno yr oedd ei dŷ ef: yno hefyd y barnai efe Israel; ac yno yr adeiladodd efe allor i'r Arglwydd.