Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon; canys clybu eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad: canys hoff oedd gan Hiram Dafydd bob amser.

2. A Solomon a anfonodd at Hiram, gan ddywedyd,

3. Ti a wyddost am Dafydd fy nhad, na allai efe adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd ei Dduw, gan y rhyfeloedd oedd o'i amgylch ef, nes rhoddi o'r Arglwydd hwynt dan wadnau ei draed ef.

4. Eithr yn awr yr Arglwydd fy Nuw a roddodd i mi lonydd oddi amgylch, fel nad oes na gwrthwynebydd, nac ymgyfarfod niweidiol.

5. Ac wele fi â'm bryd ar adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw; megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad, gan ddywedyd, Dy fab, yr hwn a osodaf fi yn dy le di ar dy orseddfainc di, efe a adeilada dŷ i'm henw i.

6. Yn awr, gan hynny, gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus; a'm gweision i a fyddant gyda'th weision di: a rhoddaf atat gyflog dy weision, yn ôl yr hyn a ddywedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid.

7. A bu, pan glybu Hiram eiriau Solomon, lawenychu ohono ef yn ddirfawr, a dywedyd, Bendigedig yw yr Arglwydd heddiw, yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma.

8. A Hiram a anfonodd at Solomon, gan ddywedyd, Gwrandewais ar yr hyn a anfonaist ataf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd, a choed ffynidwydd.

9. Fy ngweision a'u dygant i waered o Libanus hyd y môr: a mi a'u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr, hyd y fan a osodych di i mi; ac yno y datodaf hwynt, a chymer di hwynt: ond ti a wnei fy ewyllys innau, gan roddi ymborth i'm teulu i.

10. Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd, ac o goed ffynidwydd, ei holl ddymuniad.

11. A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i'w dŷ, ac ugain corus o olew coeth: felly y rhoddai Solomon i Hiram bob blwyddyn.

12. A'r Arglwydd a roddes ddoethineb i Solomon, fel y dywedasai wrtho: a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau.

13. A'r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel, a'r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr.

14. Ac efe a'u hanfonodd hwynt i Libanus, deng mil yn y mis ar gylch: mis y byddent yn Libanus, a dau fis gartref. Ac Adoniram oedd ar y dreth.

15. Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau, a phedwar ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd;

16. Heb law pen‐swyddogion Solomon, y rhai oedd ar y gwaith, sef tair mil a thri chant, yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith.

17. A'r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr, a meini costus, a meini nadd, i sylfaenu y tŷ.

18. Felly seiri Solomon, a seiri Hiram, a'r Gibliaid, a naddasant, ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu'r tŷ.