Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A phan orffennodd Solomon adeiladu tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, a chwbl o ddymuniad Solomon yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthur;

2. Yr Arglwydd a ymddangosodd i Solomon yr ail waith, fel yr ymddangosasai iddo yn Gibeon.

3. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a'th ddeisyfiad di, yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a'm calon fydd yno yn wastadol.

4. Ac os rhodi di ger fy mron i, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti, ac os cedwi fy neddfau a'm barnedigaethau:

5. Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd, fel y lleferais wrth Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni phalla i ti ŵr ar orseddfainc Israel.

6. Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a'ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb gadw fy ngorchmynion a'm deddfau, y rhai a roddais o'ch blaen chwi, eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy:

7. Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy; a'r tŷ hwn a gysegrais i'm henw, a fwriaf allan o'm golwg; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd:

8. A'r tŷ uchel hwn, pawb a gyniweiro heibio iddo, a synna wrtho, ac a chwibana; dywedant hefyd, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r wlad hon, ac i'r tŷ yma?

9. A hwy a ddywedant, Am iddynt wrthod yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft, ac ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a'u gwasanaethu hwynt; am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.

10. Ac ymhen yr ugain mlynedd, wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ, sef tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin,

11. (Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Solomon goed cedr, a choed ffynidwydd, ac aur, yn ôl ei holl ewyllys ef,) y brenin Solomon a roddes i Hiram ugain dinas yng ngwlad Galilea.

12. A Hiram a ddaeth o Tyrus i edrych y dinasoedd a roddasai Solomon iddo ef; ac nid oeddynt wrth ei fodd ef.

13. Ac efe a ddywedodd, Pa ddinasoedd yw y rhai hyn a roddaist i mi, fy mrawd? Ac efe a'u galwodd hwynt Gwlad Cabul, hyd y dydd hwn.

14. A Hiram a anfonodd i'r brenin chwech ugain talent o aur.

15. A dyma swm y dreth a gododd y brenin Solomon, i adeiladu tŷ yr Arglwydd, a'i dŷ ei hun, a Milo, a mur Jerwsalem, Hasor, a Megido, a Geser.

16. Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny, ac a enillasai Geser, ac a'i llosgasai hi â thân, ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas, ac a'i rhoddasai hi yn anrheg i'w ferch, gwraig Solomon.

17. A Solomon a adeiladodd Geser, a Beth‐horon isaf,

18. A Baalath, a Thadmor yn yr anialwch, o fewn y wlad,

19. A holl ddinasoedd y trysorau y rhai oedd gan Solomon, a dinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y gwŷr meirch, a'r hyn oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei lywodraeth.

20. Yr holl bobl y rhai a adawyd o'r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid, a'r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o feibion Israel;

21. Sef eu meibion hwy, y rhai a adawsid ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni allodd meibion Israel eu lladd; ar y rhai hynny y cyfododd Solomon dreth wrogaeth hyd y dydd hwn.

22. Ond o feibion Israel ni wnaeth Solomon un yn gaethwas: rhyfelwyr iddo ef oeddynt, a gweision iddo, a thywysogion iddo, a chapteiniaid iddo, a thywysogion ei gerbydau a'i wŷr meirch.

23. Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Solomon, pum cant a deg a deugain, oedd yn llywodraethu y bobl oedd yn gweithio yn y gwaith.

24. A merch Pharo a ddaeth i fyny o ddinas Dafydd i'w thŷ ei hun, yr hwn a adeiladasai Solomon iddi hi: yna efe a adeiladodd Milo.

25. A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymai Solomon boethoffrymau ac offrymau hedd ar yr allor a adeiladasai efe i'r Arglwydd: ac efe a arogldarthodd ar yr allor oedd gerbron yr Arglwydd. Felly efe a orffennodd y tŷ.

26. A'r brenin Solomon a wnaeth longau yn Esion‐gaber, yr hon sydd wrth Eloth, ar fin y môr coch, yng ngwlad Edom.

27. A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau, y rhai oedd longwyr yn medru oddi wrth y môr, gyda gweision Solomon.

28. A hwy a ddaethant i Offir, ac a ddygasant oddi yno bedwar cant ac ugain o dalentau aur, ac a'u dygasant at y brenin Solomon.