Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 12:21-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd holl dŷ Jwda, a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab Solomon.

22. Ond gair Duw a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd,

23. Adrodd wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl dŷ Jwda a Benjamin, a gweddill y bobl, gan ddywedyd,

24. Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel; dychwelwch bob un i'w dŷ ei hun: canys trwof fi y mae y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar air yr Arglwydd, ac a ddychwelasant i fyned ymaith, yn ôl gair yr Arglwydd.

25. Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim, ac a drigodd ynddi hi; ac a aeth oddi yno, ac adeiladodd Penuel.

26. A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd.

27. Os â y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem, yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda, a hwy a'm lladdant i, ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda.

28. Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a'th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 12