Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Seithfed Sêl a'r Thuser Aur

1. Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, bu distawrwydd yn y nef am tua hanner awr.

2. Yna gwelais y saith angel sy'n sefyll gerbron Duw; a rhoddwyd iddynt saith utgorn.

3. Daeth angel arall, a safodd wrth yr allor â thuser aur yn ei law. Rhoddwyd iddo ddigonedd o arogldarth i'w offrymu gyda gweddïau'r holl saint ar yr allor aur oedd o flaen yr orsedd.

4. O law yr angel esgynnodd mwg yr arogldarth gerbron Duw gyda gweddïau'r saint.

5. Cymerodd yr angel y thuser, a llanwodd hi â thân o'r allor a'i thaflu ar y ddaear; ac yna bu sŵn taranau a fflachiadau mellt a daeargryn.

Yr Utgyrn

6. Paratôdd y saith angel, yr oedd y saith utgorn ganddynt, i'w seinio.

7. Seiniodd y cyntaf ei utgorn. Yna daeth cenllysg a thân, yn gymysg â gwaed, ac fe'u bwriwyd ar y ddaear. Llosgwyd traean o'r ddaear, llosgwyd traean o'r coed, llosgwyd pob porfa las.

8. Seiniodd yr ail angel ei utgorn. Yna taflwyd i'r môr rywbeth tebyg i fynydd mawr yn llosgi'n dân. Trodd traean o'r môr yn waed,

9. a bu farw traean o greaduriaid byw y môr, a dinistriwyd traean o'r llongau.

10. Seiniodd y trydydd angel ei utgorn. Yna syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel ffagl; syrthiodd ar draean o'r afonydd ac ar ffynhonnau'r dyfroedd.

11. Enw'r seren yw Wermod, a throdd traean o'r dyfroedd yn wermod, a bu farw llawer o bobl o achos chwerwi'r dyfroedd.

12. Seiniodd y pedwerydd angel ei utgorn. Yna trawyd traean o'r haul a thraean o'r lleuad a thraean o'r sêr, nes tywyllu traean ohonynt, ac ni bu dim golau am draean o'r dydd, a'r un modd am draean o'r nos.