Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Neges i Effesus

1. At angel yr eglwys yn Effesus, ysgrifenna:“Dyma y mae'r hwn sy'n dal y saith seren yn ei law dde, ac yn cerdded yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn ei ddweud:

2. Gwn am dy weithredoedd a'th lafur a'th ddyfalbarhad, a gwn na elli oddef y rhai drwg; gwn dy fod wedi rhoi prawf ar y rhai sy'n eu galw eu hunain yn apostolion a hwythau heb fod felly, a chefaist hwy'n gelwyddog;

3. ac y mae gennyt ddyfalbarhad, a dygaist faich trwm er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist.

4. Ond y mae gennyf hyn yn dy erbyn, iti roi heibio dy gariad cynnar.

5. Cofia, felly, o ble y syrthiaist, ac edifarha, a gwna eto dy weithredoedd cyntaf. Os na wnei, ac os nad edifarhei, fe ddof atat a symud dy ganhwyllbren o'i le.

6. Ond y mae hyn o'th blaid, dy fod fel minnau yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid.

7. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. I'r sawl sy'n gorchfygu, rhof yr hawl i fwyta o bren y bywyd sydd ym Mharadwys Duw.”

Y Neges i Smyrna

8. Ac at angel yr eglwys yn Smyrna, ysgrifenna:“Dyma y mae'r cyntaf a'r olaf, yr hwn a fu farw ac a ddaeth yn fyw, yn ei ddweud:

9. Gwn am dy orthrymder a'th dlodi, ac eto yr wyt yn gyfoethog; gwn hefyd am gabledd y rhai sy'n eu galw eu hunain yn Iddewon a hwythau heb fod felly, ond yn hytrach yn synagog Satan.

10. Paid ag ofni'r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef. Wele, y mae'r diafol yn mynd i fwrw rhai ohonoch i garchar er mwyn eich profi, ac fe gewch orthrymder am ddeg diwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, a rhof iti goron y bywyd.

11. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Y sawl sy'n gorchfygu, ni chaiff niwed gan yr ail farwolaeth.”

Y Neges i Pergamus

12. Ac at angel yr eglwys yn Pergamus, ysgrifenna:“Dyma y mae'r hwn sydd â'r cleddyf llym daufiniog ganddo yn ei ddweud:

13. Gwn ym mhle yr wyt yn trigo, sef lle mae gorsedd Satan; ac eto yr wyt yn glynu wrth f'enw i, ac ni wedaist dy ffydd ynof fi, hyd yn oed yn nyddiau fy nhyst Antipas, a fu'n ffyddlon i mi ac a laddwyd yn eich mysg chwi, lle mae Satan yn trigo.

14. Ond y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, fod gennyt rai yna sy'n glynu wrth athrawiaeth Balaam, a ddysgodd i Balac osod magl i blant Israel, a pheri iddynt fwyta pethau a aberthwyd i eilunod, a phuteinio;

15. yn yr un modd, y mae gennyt tithau hefyd rai sy'n glynu wrth athrawiaeth y Nicolaiaid.

16. Edifarha felly; os na wnei, fe ddof atat yn fuan, a rhyfela yn eu herbyn hwy â chleddyf fy ngenau.

17. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. I'r sawl sy'n gorchfygu, rhof gyfran o'r manna cuddiedig, a rhof hefyd garreg wen, ac yn ysgrifenedig ar y garreg enw newydd na fydd neb yn ei wybod ond y sawl sydd yn ei derbyn.”

Y Neges i Thyatira

18. Ac at angel yr eglwys yn Thyatira, ysgrifenna:“Dyma y mae Mab Duw yn ei ddweud, yr hwn sydd ganddo lygaid fel fflam dân, a'i draed fel pres gloyw:

19. Gwn am dy weithredoedd, dy gariad, dy ffydd, dy wasanaeth, dy ddyfalbarhad, a gwn fod dy weithredoedd diwethaf yn fwy lluosog na'r rhai cyntaf.

20. Ond y mae gennyf hyn yn dy erbyn, dy fod yn goddef y wraig honno, Jesebel, sy'n ei galw ei hun yn broffwydes, a hithau'n dysgu ac yn twyllo fy ngweision i buteinio a bwyta pethau a aberthwyd i eilunod.

21. Rhoddais amser iddi i edifarhau, ond y mae'n gwrthod edifarhau am ei phuteindra.

22. Wele, bwriaf hi i wely cystudd, a'r rhai sy'n godinebu gyda hi i orthrymder mawr, os nad edifarhânt am ei gweithredoedd hi.

23. A lladdaf ei phlant hi yn gelain; ac fe gaiff yr holl eglwysi wybod mai myfi yw'r hwn sy'n chwilio meddyliau a chalonnau. Rhoddaf i chwi bob un yn ôl eich gweithredoedd.

24. Wrth y gweddill ohonoch yn Thyatira, pawb nad ydynt yn derbyn yr athrawiaeth hon, ac sydd heb brofiad o'r hyn a elwir yn ddyfnderoedd Satan, rwy'n dweud hyn: ni osodaf arnoch faich arall,

25. ond yn unig glynwch wrth yr hyn sydd gennych, hyd nes i mi ddod.

26. I'r sawl sy'n gorchfygu ac yn dal ati i wneud fy ngweithredoedd hyd y diwedd,“rhof iddo awdurdod ar y cenhedloedd—

27. a bydd yn eu llywodraethu hwy â gwialen haearn;malurir hwy fel llestri pridd—

28. “fel y derbyniais innau hefyd awdurdod gan fy Nhad. Rhof iddo hefyd seren y bore.

29. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.”