Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Sgrôl a'r Oen

1. A gwelais yn llaw dde yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd sgrôl a'i hysgrifen ar yr wyneb ac ar y cefn, wedi ei selio â saith sêl.

2. A gwelais angel nerthol yn cyhoeddi â llef uchel, “Pwy sydd deilwng i agor y sgrôl ac i ddatod ei seliau?”

3. Nid oedd neb yn y nef nac ar y ddaear na than y ddaear a allai agor y sgrôl nac edrych arni.

4. Yr oeddwn i'n wylo'n hidl am na chafwyd neb yn deilwng i agor y sgrôl nac i edrych arni.

5. A dywedodd un o'r henuriaid wrthyf, “Paid ag wylo; wele, y mae'r Llew o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, wedi gorchfygu ac ennill yr hawl i agor y sgrôl a'i saith sêl.”

6. Gwelais Oen yn sefyll yn y canol, gyda'r pedwar creadur byw, rhwng yr orsedd a'r henuriaid. Yr oedd yr Oen fel un wedi ei ladd, ac yr oedd ganddo saith o gyrn a saith o lygaid; y rhain yw saith ysbryd Duw, sydd wedi eu hanfon i'r holl ddaear.

7. Daeth yr Oen a chymryd y sgrôl o law dde yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd.

8. Ac wedi iddo gymryd y sgrôl, syrthiodd y pedwar creadur byw a'r pedwar henuriad ar hugain o flaen yr Oen, ac yr oedd gan bob un ohonynt delyn, a ffiolau aur yn llawn o arogldarth; y rhain yw gweddïau'r saint.

9. Ac yr oeddent yn canu cân newydd fel hyn:“Teilwng wyt ti i gymryd y sgrôlac i agor ei seliau,oherwydd ti a laddwyd ac a brynaist i Dduw â'th waedrai o bob llwyth ac iaith a phobl a chenedl,

10. a gwnaethost hwy yn urdd frenhinol ac yn offeiriaid i'n Duw ni;ac fe deyrnasant hwy ar y ddaear.”

11. Yna edrychais a chlywais lais angylion lawer; yr oeddent o amgylch yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r henuriaid. A'u rhif oedd myrdd myrddiynau a miloedd ar filoedd.

12. Meddent â llef uchel:“Teilwng yw'r Oen a laddwyd i dderbyngallu, cyfoeth, doethineb a nerth,anrhydedd, gogoniant a mawl.”

13. A chlywais bob peth a grewyd, yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear ac ar y môr, a'r cwbl sydd ynddynt, yn dweud:“I'r hwn sy'n eistedd ar yr orsedd ac i'r Oeny bo'r mawl a'r anrhydedd a'r gogoniant a'r nerthbyth bythoedd!”

14. A dywedodd y pedwar creadur byw, “Amen”; a syrthiodd yr henuriaid i lawr ac addoli.