Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Bwyd wedi ei Aberthu i Eilunod

1. Ynglŷn â bwyd sydd wedi ei aberthu i eilunod, y mae'n wir, fel y dywedwch, “fod gennym i gyd wybodaeth.” Y mae “gwybodaeth” yn peri i rywun ymchwyddo, ond y mae cariad yn adeiladu.

2. Os oes rhywun yn tybio iddo ddod i wybod rhywbeth, nid yw eto'n gwybod fel y dylai wybod.

3. Os oes rhywun yn caru Duw, y mae wedi ei adnabod gan Dduw.

4. Felly, ynglŷn â bwyta'r hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, gwyddom nad oes “dim eilun yn y cyfanfyd”, ac nad oes “dim Duw ond un”.

5. Oherwydd hyd yn oed os oes rhai a elwir yn dduwiau, naill ai yn y nef neu ar y ddaear—fel yn wir y mae “duwiau” lawer ac “arglwyddi” lawer—

6. eto, i ni, un Duw sydd—y Tad, ffynhonnell pob peth, a diben ein bod; ac un Arglwydd Iesu Grist—cyfrwng pob peth, a chyfrwng ein bywyd ni.

7. Ond nid yw'r wybodaeth hon gan bawb. Y mae rhai, oherwydd eu bod hyd yma wedi arfer ag eilunod, yn dal i fwyta'r bwyd fel peth wedi ei aberthu i eilunod; ac y mae eu cydwybod, gan ei bod yn wan, yn cael ei llygru.

8. Nid bwyd sy'n mynd i'n cymeradwyo ni i Dduw. Nid ydym ar ein colled o beidio â bwyta, nac ar ein hennill o fwyta.

9. Ond gwyliwch rhag i'r hawl yma sydd gennych fod yn achos cwymp mewn unrhyw fodd i'r rhai gwan.

10. Oherwydd os bydd i rywun dy weld di, sy'n meddu ar “wybodaeth”, yn bwyta mewn teml eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod, ac yntau'n wan, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod?

11. Felly, trwy dy “wybodaeth” di, fe ddinistrir yr un gwan, dy gydgredadun y bu Crist farw drosto.

12. Wrth bechu fel hyn yn erbyn eich cydgredinwyr, a chlwyfo'u cydwybod, a hithau'n wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist.

13. Am hynny, os yw bwyd yn achos cwymp i'm cydgredadun, ni fwytâf fi gig byth, rhag i mi achosi cwymp i'm cydgredadun.