Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Pregethu Crist Croeshoeliedig

1. A minnau, pan ddeuthum atoch, gyfeillion, ni ddeuthum fel un yn rhagori mewn huodledd neu ddoethineb, wrth gyhoeddi i chwi ddirgelwch Duw.

2. Oherwydd dewisais beidio â gwybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, ac yntau wedi ei groeshoelio.

3. Mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr y bûm i yn eich plith;

4. a'm hymadrodd i a'm pregeth, nid geiriau deniadol doethineb oeddent, ond amlygiad sicr o'r Ysbryd a'i nerth,

5. er mwyn i'ch ffydd fod yn seiliedig, nid ar ddoethineb ddynol, ond ar allu Duw.

6. Eto yr ydym ni yn llefaru doethineb ymhlith y rhai aeddfed, ond nid doethineb yr oes bresennol, na'r eiddo llywodraethwyr yr oes bresennol, sydd ar ddarfod amdanynt.

7. Ond yr ydym ni'n llefaru doethineb Duw a'i dirgelwch, doethineb guddiedig, a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i'n dwyn i'n gogoniant.

8. Nid adnabu neb o lywodraethwyr yr oes bresennol mo'r ddoethineb hon; oherwydd pe buasent wedi ei hadnabod, ni fuasent wedi croeshoelio Arglwydd y gogoniant.

9. Ond fel y mae'n ysgrifenedig:“Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust,ac na ddaeth i feddwl neb,y cwbl a ddarparodd Duw ar gyfer y rhai sy'n ei garu.”

10. Eithr datguddiodd Duw hwy i ni trwy'r Ysbryd. Oblegid y mae'r Ysbryd yn plymio pob peth, hyd yn oed ddyfnderoedd Duw.

11. Oherwydd pwy sy'n deall y natur ddynol, ond yr ysbryd sydd ym mhob un? Yr un modd nid oes neb yn gwybod natur Duw, ond Ysbryd Duw.

12. Ond nyni, nid ysbryd y byd a dderbyniasom, ond yr Ysbryd sydd oddi wrth Dduw, er mwyn inni wybod y pethau a roddodd Duw o'i ras i ni.

13. Yr ydym yn mynegi'r rhain mewn geiriau a ddysgwyd i ni, nid gan ddoethineb ddynol, ond gan yr Ysbryd, gan esbonio pethau ysbrydol i'r rhai sydd yn meddu'r Ysbryd.

14. Nid yw'r rhai anianol yn derbyn pethau Ysbryd Duw, oherwydd ffolineb ydynt iddynt hwy, ac ni allant eu hamgyffred, gan mai mewn modd ysbrydol y maent yn cael eu barnu.

15. Y mae'r rhai ysbrydol yn barnu pob peth, ond ni chânt hwy eu barnu gan neb.

16. Yng ngeiriau'r Ysgrythur:“Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd,i'w gyfarwyddo?”Ond y mae meddwl Crist gennym ni.