Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Mynd i Gyfraith gerbron Anghredinwyr

1. Os oes gan un ohonoch gŵyn yn erbyn un arall, a yw'n beiddio mynd â'i achos gerbron yr annuwiol, yn hytrach na cherbron y saint?

2. Oni wyddoch mai'r saint sydd i farnu'r byd? Ac os yw'r byd yn cael ei farnu gennych chwi, a ydych yn anghymwys i farnu'r achosion lleiaf?

3. Oni wyddoch y byddwn yn barnu angylion, heb sôn am bethau'r bywyd hwn?

4. Felly, os bydd gennych achosion fel hyn, a ydych yn gosod yn farnwyr y rhai sydd isaf eu parch yng ngolwg yr eglwys?

5. I godi cywilydd arnoch yr wyf yn dweud hyn. A yw wedi dod i hyn, nad oes neb doeth yn eich plith fydd yn gallu barnu rhwng cydgredinwyr?

6. A yw credinwyr yn mynd i gyfraith â'i gilydd, a hynny gerbron anghredinwyr?

7. Yn gymaint â'ch bod yn ymgyfreithio o gwbl â'ch gilydd, yr ydych eisoes, yn wir, wedi colli'r dydd. Pam, yn hytrach, na oddefwch gam? Pam, yn hytrach, na oddefwch golled?

8. Ond gwneud cam yr ydych chwi, peri colled yr ydych, a hynny i gydgredinwyr.

9. Oni wyddoch na chaiff yr anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff puteinwyr, nac eilunaddolwyr, na godinebwyr, na rhai sy'n ymlygru â'u rhyw eu hunain,

10. na lladron, na rhai trachwantus, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw.

11. A dyna oedd rhai ohonoch chwi; ond yr ydych wedi'ch golchi, a'ch sancteiddio, a'ch cyfiawnhau trwy enw'r Arglwydd Iesu Grist, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.

Gogoneddwch Dduw yn eich Corff

12. “Y mae popeth yn gyfreithlon i mi,” meddwch; ond nid yw popeth er lles. “Y mae popeth yn gyfreithlon i mi,” meddwch; ond ni chaiff dim fy nghaethiwo i.

13. “Y bwydydd i'r bol a'r bol i'r bwydydd,” meddwch; ond fe ddifetha Duw y naill a'r llall. Eto, nid i buteindra y mae'r corff, ond i'r Arglwydd, a'r Arglwydd i'r corff.

14. Cyfododd Duw yr Arglwydd, ac fe'n cyfyd ninnau hefyd drwy ei allu.

15. Oni wyddoch mai aelodau Crist yw eich cyrff chwi? A gymeraf fi, felly, aelodau Crist a'u gwneud yn aelodau putain? Dim byth!

16. Neu oni wyddoch fod dyn sy'n ymlynu wrth butain yn un corff â hi? Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud, “Bydd y ddau yn un cnawd.”

17. Ond y sawl sy'n ymlynu wrth yr Arglwydd, y mae'n un ysbryd ag ef.

18. Ffowch oddi wrth buteindra; pob pechod arall a wna rhywun, beth bynnag ydyw, y tu allan i'r corff y mae, ond y mae'r sawl sydd yn puteinio yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.

19. Neu, oni wyddoch fod eich corff yn deml i'r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn sydd gennych oddi wrth Dduw, ac nad yr eiddoch eich hunain mohonoch?

20. Oherwydd prynwyd chwi am bris. Felly gogoneddwch Dduw yn eich corff.