Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 5:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Ychwanegodd, “Rhof iti ddrachma y dydd yn gyflog, a'th dreuliau angenrheidiol, yr un fath ag i'm mab;

15. ac os cedwi di wrth ochr fy mab ar hyd y daith, yna fe ychwanegaf at dy gyflog.”

16. “Af gydag ef,” atebodd, “a phaid ag ofni. Yn iach yr ymadawn â thi, ac yn iach y dychwelwn atat, oherwydd y mae'r ffordd yn ddiogel.” “Bendith arnat, fy mrawd,” meddai Tobit wrtho. Yna galwodd ei fab a dweud wrtho, “Fy machgen, gwna dy baratoadau ar gyfer y daith, a dos gyda'th frawd. Boed i Dduw, sydd yn y nefoedd, eich cadw'n ddiogel ar y ffordd yno, a dod â chwi'n ôl ataf yn holliach. A boed i'w angel fod gyda chwi ar y ffordd, fy machgen, er diogelwch.” Wrth ymadael i gychwyn ar ei daith, cusanodd ei dad a'i fam, a chanodd Tobit yn iach iddo.

17. Ond dyma'i fam yn torri i wylo a chwyno wrth Tobit fel hyn: “Pam yr wyt ti wedi anfon fy machgen i ffwrdd? Onid ef yw'r ffon, megis, y pwyswn arni, ac yntau'n mynd a dod yn ein gwasanaeth?

18. Paid â phrysuro i hel arian at arian, ond er mwyn ein bachgen, cymer fod yr arian wedi ei golli.

19. Digon i ni yw'r math o fywyd sydd wedi ei roi inni gan yr Arglwydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 5