“Af gydag ef,” atebodd, “a phaid ag ofni. Yn iach yr ymadawn â thi, ac yn iach y dychwelwn atat, oherwydd y mae'r ffordd yn ddiogel.” “Bendith arnat, fy mrawd,” meddai Tobit wrtho. Yna galwodd ei fab a dweud wrtho, “Fy machgen, gwna dy baratoadau ar gyfer y daith, a dos gyda'th frawd. Boed i Dduw, sydd yn y nefoedd, eich cadw'n ddiogel ar y ffordd yno, a dod â chwi'n ôl ataf yn holliach. A boed i'w angel fod gyda chwi ar y ffordd, fy machgen, er diogelwch.” Wrth ymadael i gychwyn ar ei daith, cusanodd ei dad a'i fam, a chanodd Tobit yn iach iddo.