Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 5:13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ymatebodd yntau, “Bendith arnat! Duw a'th gadwo ar y daith, fy mrawd! Paid â dal dig yn fy erbyn, fy mrawd, am i mi fynnu gwybod y gwir am dy deulu. Fel y digwydd, rwyt ti'n un o'n brodyr ac yn barchus a theilwng dy linach. Yr oeddwn yn adnabod Ananias a Nathan, dau fab Semelias yr hynaf. Yr oeddent yn arfer mynd ar bererindod i Jerwsalem gyda mi, ac yn addoli gyda mi yno. Nid aethant ar gyfeiliorn. Yr oedd dy frodyr yn ddynion da. Yr wyt ti'n tarddu o dras enwog. Ac felly bendith ar dy siwrnai!”

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 5

Gweld Tobit 5:13 mewn cyd-destun