Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 3:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Y diwrnod hwnnw digwyddodd i Sara, merch Ragwel, o Ecbatana yn Media orfod gwrando ar sen gan un o forynion ei thad.

8. Yn awr yr oedd hi wedi ei rhoi mewn priodas i saith gŵr yn eu tro, ond fe'u lladdwyd bob un gan Asmodeus, yr ysbryd drwg, cyn iddynt gael cydorwedd â hi fel sy'n briodol i ŵr a gwraig. Ond dywedodd y forwyn wrthi, “Ti yw llofrudd dy wŷr. Er gwaethaf dy roi mewn priodas i saith o wŷr bellach, ni chefaist enw'r un ohonynt.

9. Pam yr wyt ti'n ein cosbi ni am fod dy wŷr wedi marw? Dos i gadw cwmni â hwy. Gobeithio na welwn na mab na merch i ti byth.”

10. Bu hyn yn ofid calon iddi y diwrnod hwnnw. Yn ei dagrau aeth i fyny i oruwchystafell ei thad gyda'r bwriad o'i chrogi ei hun. Ond dechreuodd ailfeddwl a dweud, “Ni chânt fyth fwrw sen ar fy nhad a dweud wrtho, ‘Un ferch, a honno'n annwyl, oedd i ti, ond fe'i crogodd ei hun o achos ei helbulon.’ Byddai'r fath weithred yn ddigon i ddwyn fy nhad oedrannus i'r bedd o dristwch. Mwy buddiol i mi fydd peidio â'm crogi fy hun, ond gweddïo ar i'r Arglwydd ganiatáu imi farw, rhag imi ddioddef sen byth eto yn ystod fy mywyd.”

11. Aeth ar unwaith at y ffenestr, â'i dwylo ar led, a gweddïo fel hyn: “Bendigedig wyt ti, Dduw trugarog, a bendigedig fydd dy enw yn oes oesoedd; bydded i'th holl greadigaeth dy fendithio am byth.

12. Dyma fi wedi codi fy ngolwg a'm llygaid tuag atat;

13. gorchymyn fy ngollwng o'r ddaear, imi beidio â dioddef y fath sen byth eto.

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 3