Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 3:6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Yn awr, felly, gwna â mi yn ôl dy ddymuniad. Gorchymyn gymryd fy ysbryd oddi wrthyf, imi gael fy ngollwng yn rhydd oddi ar wyneb y ddaear a'm troi yn bridd; oherwydd marw sydd fuddiol i mi, nid byw, am i mi glywed geiriau o sen celwyddog, er mawr ofid imi. Arglwydd, rho orchymyn i mi gael rhyddhad o'r cyfyngder hwn; gad imi ddianc i'r orffwysfa dragwyddol, a phaid â throi dy wyneb oddi wrthyf, Arglwydd. Oherwydd gwell i mi farw na chael bywyd o flinder mawr a gwrando ar y fath sen.”

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 3

Gweld Tobit 3:6 mewn cyd-destun