Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 3:10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Bu hyn yn ofid calon iddi y diwrnod hwnnw. Yn ei dagrau aeth i fyny i oruwchystafell ei thad gyda'r bwriad o'i chrogi ei hun. Ond dechreuodd ailfeddwl a dweud, “Ni chânt fyth fwrw sen ar fy nhad a dweud wrtho, ‘Un ferch, a honno'n annwyl, oedd i ti, ond fe'i crogodd ei hun o achos ei helbulon.’ Byddai'r fath weithred yn ddigon i ddwyn fy nhad oedrannus i'r bedd o dristwch. Mwy buddiol i mi fydd peidio â'm crogi fy hun, ond gweddïo ar i'r Arglwydd ganiatáu imi farw, rhag imi ddioddef sen byth eto yn ystod fy mywyd.”

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 3

Gweld Tobit 3:10 mewn cyd-destun