Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 10:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd Tobit, bob dydd ar ôl ei gilydd, yn cadw cyfrif o'r dyddiau, sawl un oedd cyn i Tobias gyrraedd Rhages a sawl un cyn iddo ddychwelyd. A phan ddaeth y dyddiau i ben a'i fab heb ddod yn ei ôl,

2. dechreuodd ddyfalu, “Tybed a gafodd ei ddal yno? Efallai fod Gabael wedi marw, ac nad oes neb i drosglwyddo'r arian iddo.”

3. Ac yntau'n dechrau gofidio,

4. dywedodd Anna ei wraig, “Y mae hi ar ben ar fy machgen; nid yw bellach ar dir y rhai byw.” Torrodd i wylo a galaru am ei mab, a dweud,

5. “Gwae fi, fy mhlentyn, imi adael iti fynd, ti oleuni fy llygaid.”

6. Ond meddai Tobit wrthi, “Bydd dawel, fy chwaer, a phaid â phoeni. Y mae'n holliach. Y tebyg yw i ryw rwystr ddod ar ei ffordd. Gallwn ymddiried yn y gŵr sy'n gydymaith iddo, ac yntau'n un o'n tylwyth. Paid â gofidio amdano, fy chwaer; bydd yma cyn pen dim.”

7. Ond atebodd hithau, “Gad lonydd imi, a phaid â'm twyllo. Y mae hi ar ben ar fy machgen.” A daeth yn arfer ganddi ruthro allan gyda dyfodiad pob dydd i gadw llygad ar y ffordd yr aeth ei mab ar hyd-ddi. Ni fyddai'n cymryd sylw o neb. Yna wedi machlud haul byddai'n dod i'r tŷ ac yn galaru ac wylo ar hyd y nos, heb gysgu dim.Daeth y wledd bythefnos, yr oedd Ragwel wedi ei haddo ar lw i ddathlu priodas ei ferch, i ben, ac yna aeth Tobias ato a gofyn, “Gad imi ymadael, oherwydd y mae'n siŵr gennyf nad yw fy nhad a'm mam yn disgwyl fy ngweld i byth eto. Rwy'n ymbil arnat, felly, fy nhad, fy esgusodi, er mwyn imi ddychwelyd at fy nhad fy hun; rwyf eisoes wedi dweud wrthyt am ei gyflwr pan ymadewais ag ef.”

8. Ond atebodd Ragwel Tobias fel hyn: “Aros, fy machgen, aros gyda mi; fe anfonaf genhadon at Tobit dy dad i roi gwybodaeth iddo amdanat.”

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 10