Ond meddai Tobit wrthi, “Bydd dawel, fy chwaer, a phaid â phoeni. Y mae'n holliach. Y tebyg yw i ryw rwystr ddod ar ei ffordd. Gallwn ymddiried yn y gŵr sy'n gydymaith iddo, ac yntau'n un o'n tylwyth. Paid â gofidio amdano, fy chwaer; bydd yma cyn pen dim.”