Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 10:7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ond atebodd hithau, “Gad lonydd imi, a phaid â'm twyllo. Y mae hi ar ben ar fy machgen.” A daeth yn arfer ganddi ruthro allan gyda dyfodiad pob dydd i gadw llygad ar y ffordd yr aeth ei mab ar hyd-ddi. Ni fyddai'n cymryd sylw o neb. Yna wedi machlud haul byddai'n dod i'r tŷ ac yn galaru ac wylo ar hyd y nos, heb gysgu dim.Daeth y wledd bythefnos, yr oedd Ragwel wedi ei haddo ar lw i ddathlu priodas ei ferch, i ben, ac yna aeth Tobias ato a gofyn, “Gad imi ymadael, oherwydd y mae'n siŵr gennyf nad yw fy nhad a'm mam yn disgwyl fy ngweld i byth eto. Rwy'n ymbil arnat, felly, fy nhad, fy esgusodi, er mwyn imi ddychwelyd at fy nhad fy hun; rwyf eisoes wedi dweud wrthyt am ei gyflwr pan ymadewais ag ef.”

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 10

Gweld Tobit 10:7 mewn cyd-destun