Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Edifeirwch Ffuantus

1. “Dewch, dychwelwn drachefn at yr ARGLWYDD;fe'n drylliodd, ac fe'n hiachâ;fe'n trawodd, ac fe'n meddyginiaetha.

2. Fe'n hadfywia ar ôl deuddydd,a'n codi ar y trydydd dydd, inni fyw yn ei ŵydd.

3. Gadewch inni adnabod, ymdrechu i adnabod, yr ARGLWYDD;y mae ei ddyfodiad mor sicr â'r wawr;daw fel glaw atom, fel glaw gwanwyn sy'n dyfrhau'r ddaear.”

4. “Beth a wnaf i ti, Effraim? Beth a wnaf i ti, Jwda?Y mae dy ffyddlondeb fel tarth y bore, fel gwlith sy'n codi'n gynnar.

5. Am hynny, fe'u drylliais trwy'r proffwydi,fe'u lleddais â geiriau fy ngenau,a daw fy marn allan fel goleuni.

6. Oherwydd ffyddlondeb a geisiaf, ac nid aberth,gwybodaeth o Dduw yn hytrach na phoethoffrymau.

7. Yn Adma torasant gyfamod,yno buont dwyllodrus tuag ataf.

8. Dinas rhai ofer yw Gilead,wedi ei thrybaeddu â gwaed.

9. Fel y bydd lladron yn disgwyl am rywun,felly'r ymunodd yr offeiriaid yn fintai;byddant yn lladd ar y ffordd i Sichem,yn wir, yn gwneud anfadwaith.

10. Yng nghysegr Israel gwelais beth erchyll;yno y mae puteindra Effraim, ac yr halogodd Israel ei hun.

11. I tithau hefyd, Jwda, paratowyd cynhaeaf.”