1. Nid yw neb sydd wedi ei sbaddu neu wedi colli ei gala i fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD.
2. Nid yw bastardyn, na neb o'i ddisgynyddion hyd y ddegfed genhedlaeth, i fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD.
3. Nid yw Ammoniad na Moabiad, na neb o'u disgynyddion hyd y ddegfed genhedlaeth, i fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD,
4. am na ddaethant i'th gyfarfod â bara a dŵr ar dy ffordd o'r Aifft, ond yn hytrach llogi Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia i'th felltithio.
5. Er hynny, ni fynnai'r ARGLWYDD dy Dduw wrando ar Balaam, ond troes ef y felltith yn fendith iti am ei fod yn dy garu.
6. Nid wyt i geisio lles na budd iddynt holl ddyddiau d'oes.
7. Nid wyt i ffieiddio Edomiad, oherwydd y mae'n frawd iti; nid wyt i ffieiddio Eifftiwr, oherwydd buost yn alltud yn ei wlad.
8. Caiff eu disgynyddion ar ôl y drydedd genhedlaeth fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD.
9. Os byddi'n mynd allan i wersyllu yn erbyn dy elyn, ymgadw rhag pob aflendid.
10. Os bydd rhywun yn aflan oherwydd bwrw had yn ystod y nos, yna y mae i adael y gwersyll a pheidio â dod yn ôl.
11. Gyda'r hwyr y mae i ymolchi â dŵr, a chaiff ddychwelyd i'r gwersyll wedi i'r haul fachlud.
12. Noda le y tu allan i'r gwersyll ar gyfer mynd o'r neilltu;
13. a bydd gennyt raw ymhlith dy offer, a phan fyddi'n mynd o'r neilltu, cloddia dwll a chladdu dy garthion ynddo.
14. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn rhodio trwy ganol y gwersyll i'th waredu a darostwng d'elynion o'th flaen; felly rhaid i'th wersyll fod yn sanctaidd, rhag iddo ef weld dim anweddus yno, a throi i ffwrdd oddi wrthyt.
15. Paid â dychwelyd caethwas a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr.
16. Gad iddo fyw yn eich mysg yn y fan a fynno, ym mha dref bynnag y mae'n ei dewis; paid â'i orthrymu.
17. Nid yw neb o ferched Israel i fod yn butain y cysegr, na neb o feibion Israel yn buteiniwr y cysegr.
18. Nid yw putain na gwrywgydiwr i ddod â'u tâl i dŷ'r ARGLWYDD dy Dduw i dalu unrhyw adduned, oherwydd y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
19. Nid wyt i godi llog ar un o'th dylwyth am fenthyg arian, na bwyd, na dim arall a roir ar fenthyg.
20. Cei godi llog ar yr estron, ond nid ar un o'th dylwyth, er mwyn iti dderbyn bendith gan yr ARGLWYDD dy Dduw ym mhopeth y byddi'n ei wneud yn y wlad yr wyt ar ddod i'w meddiannu.
21. Os byddi'n gwneud adduned i'r ARGLWYDD dy Dduw, paid ag oedi cyn ei chyflawni; bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn sicr o'i hawlio gennyt, a byddi dithau yn euog o bechod.
22. Pe bait heb addunedu, ni fyddet yn euog.
23. Gwylia beth a ddaw allan o'th enau, a chyflawna d'addewid i'r ARGLWYDD dy Dduw, gan mai o'th wirfodd yr addewaist.
24. Os byddi'n mynd trwy winllan dy gymydog, cei fwyta dy wala o'r grawnwin, ond paid â rhoi dim yn dy fasged.
25. Os byddi'n mynd trwy gae ŷd dy gymydog, cei dynnu tywysennau â'th law, ond paid â gosod cryman yn ŷd dy gymydog.