Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Gwahardd Dull o Alaru

1. Plant i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi; peidiwch â'ch archolli eich hunain na gwneud eich talcen yn foel dros y marw.

2. Pobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi, oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD chwi o holl bobloedd y byd i fod yn bobl arbennig iddo'i hun.

Anifeiliaid Glân ac Aflan

3. Nid ydych i fwyta dim ffiaidd.

4. Dyma'r anifeiliaid y cewch eu bwyta: eidion, dafad, gafr,

5. carw, ewig, iwrch, gafr wyllt, gafr hirgorn, gafrewig a hydd.

6. Cewch fwyta pob anifail sy'n hollti'r ddau ewin ac yn eu fforchi i'r pen, a hefyd yn cnoi cil.

7. Ond nid ydych i fwyta'r rhai sy'n cnoi cil yn unig neu'n hollti'r ewin fforchog yn unig, sef camel, ysgyfarnog, broch; am eu bod yn cnoi cil ond heb fforchi'r ewin y maent yn aflan ichwi.

8. Y mae'r mochyn yn hollti'r ewin, heb gnoi cil; y mae'n aflan i chwi. Nid ydych i fwyta'u cig, na chyffwrdd â'u cyrff.

9. O'r holl greaduriaid sy'n byw mewn dŵr, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: pob un ac iddo esgyll neu gen.

10. Ond popeth sydd heb esgyll na chen, ni chewch ei fwyta; y mae'n aflan i chwi.

11. Cewch fwyta pob aderyn glân.

12. A dyma'r rhai na chewch eu bwyta: yr eryr, y fwltur, eryr y môr,

13. y boda, y barcud, unrhyw fath o gudyll,

14. unrhyw fath o frân,

15. yr estrys, y frân nos, yr wylan, unrhyw fath o hebog,

16. y dylluan, y dylluan wen, y gigfran,

17. y pelican, y fwltur mawr, y fulfran,

18. y ciconia ac unrhyw fath o grëyr, y gornchwiglen a'r ystlum.

19. Y mae unrhyw bryf adeiniog yn aflan i chwi; nid ydych i'w fwyta.

20. Cewch fwyta unrhyw beth adeiniog glân.

21. Peidiwch â bwyta dim sydd wedi marw ohono'i hun; rhowch ef i'r dieithryn sydd yn eich trefi i'w fwyta, neu gwerthwch ef i estron, oherwydd pobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi. Peidiwch â berwi myn yn llaeth ei fam.

Deddf y Degwm

22. Bob blwyddyn gofala ddegymu holl gynnyrch dy had sy'n tyfu yn dy faes.

23. Yr wyt i fwyta dy ddegwm o ŷd, gwin ac olew, a chyntafanedig dy wartheg a'th ddefaid, gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis yn drigfan i'w enw, er mwyn iti ddysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw bob amser.

24. Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio, os bydd yn ormod o daith iti fedru cludo'r degwm, am dy fod yn rhy bell o'r man a ddewisir gan yr ARGLWYDD dy Dduw i osod ei enw,

25. yna rho ei werth mewn arian. Cymer yr arian gyda thi, a dos i'r man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei ddewis,

26. a phrynu beth bynnag a fynni: gwartheg, defaid, gwin, diod feddwol, neu unrhyw beth yr wyt yn ei ddymuno; a bwyta ef yno'n llawen gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, ti a'th deulu.

27. Paid ag esgeuluso'r Lefiaid sydd yn dy drefi, oherwydd nid oes ganddynt ran na threftadaeth gyda thi.

28. Ar ddiwedd pob tair blynedd tyrd â degwm dy holl gynnyrch am y flwyddyn honno, a'i gadw yn dy dref.

29. Caiff y Lefiaid, nad oes ganddynt ran na threftadaeth gyda thi, a'r dieithryn a'r amddifad a'r weddw yn dy dref, ddod a bwyta'u gwala; a bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio di yn y cwbl yr wyt yn ei wneud.