Hen Destament

Testament Newydd

Bel A'r Ddraig 1:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Yr oedd hefyd ddraig fawr a addolid gan y Babiloniaid.

24. Dywedodd y brenin wrth Daniel, “Ni fedri wadu nad yw hon yn dduw byw. Felly ymgryma iddi.”

25. Atebodd Daniel, “I'r Arglwydd fy Nuw yr ymgrymaf. Duw byw yw ef.

26. Ond dyro i mi awdurdod, frenin, ac mi laddaf y ddraig heb na chleddyf na ffon.” Dywedodd y brenin, “Yr wyf yn ei roi iti.”

27. Cymerodd Daniel byg a saim a blew, a'u berwi gyda'i gilydd a gwneud teisennau ohonynt; ac fe'u gosododd yng ngheg y ddraig. Bwytaodd hithau hwy, ac fe ffrwydrodd.

Darllenwch bennod gyflawn Bel A'r Ddraig 1