Penodau

  1. 1

Hen Destament

Testament Newydd

Bel A'r Ddraig 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Daniel ac Offeiriaid Bel

1. Wedi marw'r Brenin Astyages, fe gymerodd Cyrus y Persiad ei orsedd.

2. Yr oedd Daniel yn byw gyda'r brenin, ac yn uwch ei anrhydedd na neb arall o Gyfeillion y Brenin.

3. Yr oedd gan y Babiloniaid eilun o'r enw Bel, a byddent yn darparu iddo bob dydd ddeuddeng mesur o beilliaid, deugain dafad, a chwe mesur o win.

4. Byddai'r brenin yn ei addoli, ac yn mynd bob dydd i ymgrymu iddo. Ond i'w Dduw ei hun y byddai Daniel yn ymgrymu.

5. Gofynnodd y brenin iddo, “Pam nad wyt yn ymgrymu i Bel?” Dywedodd yntau, “Nid eilunod o waith dwylo dynol yr wyf fi'n eu haddoli ond y Duw byw, Creawdwr nef a daear, ac Arglwydd pob peth byw.”

6. Meddai'r brenin, “Onid wyt yn credu bod Bel yn dduw byw? Oni weli di gymaint y mae'n ei fwyta ac yfed bob dydd?”

7. Atebodd Daniel dan chwerthin, “Paid â chymryd dy dwyllo, frenin. Clai yw hwn oddi mewn, a phres oddi allan; nid yw wedi bwyta nac yfed erioed.”

8. Yna, yn llawn dicter, galwodd y brenin ei offeiriaid a dweud wrthynt: “Os na ddywedwch wrthyf pwy sydd yn bwyta'r bwyd hwn, byddwch farw. Ond os gallwch ddangos mai Bel sydd yn ei fwyta, caiff Daniel farw am ddweud cabledd yn erbyn Bel.”

9. Yna dywedodd Daniel wrth y brenin, “Boed felly.”

10. Yr oedd gan Bel ddeg a thrigain o offeiriaid, heblaw eu gwragedd a'u plant. Aeth y brenin gyda Daniel i deml Bel.

11. Dywedodd offeiriaid Bel, “Fe awn ni allan yn awr. Fe gei di, frenin, osod y bwydydd yn eu lle, a chymysgu'r gwin a gosod hwnnw. Cau'r drws wedyn, a'i selio â'th fodrwy dy hun. Tyrd yn ôl yn y bore, ac os na fyddi'n gweld bod Bel wedi bwyta'r cwbl, fe gei ein lladd. Onid e, caiff Daniel ei ladd, am iddo ddweud celwydd yn ein herbyn ni.”

12. Ond siarad yn ddirmygus yr oeddent, gan eu bod wedi gwneud ffordd gudd dan y bwrdd; byddent yn mynd yn ôl a blaen ar hyd-ddi, ac yn bwyta'r cwbl.

13. Wedi i'r offeiriaid fynd allan, gosododd y brenin y bwyd gerbron Bel.

14. Gorchmynnodd Daniel i'w weision ddod â lludw a'i daenu dros yr holl deml yng ngŵydd y brenin yn unig. Ac aethant allan a chloi'r drws a'i selio â modrwy'r brenin, a mynd i ffwrdd.

15. Aeth yr offeiriaid liw nos, yn ôl eu harfer, gyda'u gwragedd a'u plant, a bwyta ac yfed y cwbl.

16. Cododd y brenin yn fore iawn, a daeth â Daniel gydag ef.

17. Dyma'r brenin yn gofyn, “A yw'r seliau'n gyfan, Daniel?” “Ydynt, frenin,” atebodd ef.

18. A chyn gynted ag yr agorwyd y drws, edrychodd y brenin tua'r bwrdd, a gwaeddodd â llais uchel, “Mawr wyt ti, Bel. Nid oes dim twyll ynot, dim o gwbl.”

19. Ond chwerthin a wnaeth Daniel, ac atal y brenin rhag mynd i mewn. “Edrych ar y llawr,” meddai, “ac ystyria. Ôl traed pwy yw'r rhain?”

20. “Gwelaf ôl traed dynion a gwragedd a phlant,” atebodd y brenin.

21. Yn ei gynddaredd galwodd y brenin yr offeiriaid a'u gwragedd a'u plant ynghyd. A dyma hwythau'n dangos iddo'r drysau cudd y daethant i mewn drwyddynt i fwyta'r pethau oedd ar y bwrdd.

22. Yna lladdodd y brenin hwy, a rhoi Bel yn llaw Daniel. Dinistriodd yntau y duw a'i deml.

Daniel yn Lladd y Ddraig

23. Yr oedd hefyd ddraig fawr a addolid gan y Babiloniaid.

24. Dywedodd y brenin wrth Daniel, “Ni fedri wadu nad yw hon yn dduw byw. Felly ymgryma iddi.”

25. Atebodd Daniel, “I'r Arglwydd fy Nuw yr ymgrymaf. Duw byw yw ef.

26. Ond dyro i mi awdurdod, frenin, ac mi laddaf y ddraig heb na chleddyf na ffon.” Dywedodd y brenin, “Yr wyf yn ei roi iti.”

27. Cymerodd Daniel byg a saim a blew, a'u berwi gyda'i gilydd a gwneud teisennau ohonynt; ac fe'u gosododd yng ngheg y ddraig. Bwytaodd hithau hwy, ac fe ffrwydrodd.

28. Dywedodd Daniel, “Edrychwch ar y pethau yr ydych yn eu haddoli.” Pan glywodd y Babiloniaid hyn, aethant yn ddig, a throi yn erbyn y brenin a dweud, “Y mae'r brenin wedi troi'n Iddew. Y mae wedi distrywio Bel, a lladd y ddraig, a rhoi'r offeiriaid i farwolaeth.”

29. Daethant at y brenin a dweud, “Traddoda Daniel i ni. Os na wnei, fe'th laddwn di a'th deulu.”

30. Pan welodd y brenin eu bod yn gwasgu'n daer arno, a'i fod mewn argyfwng, traddododd Daniel iddynt.

31. Taflasant hwythau ef i ffau'r llewod, ac yno y bu am chwe diwrnod.

32. Yr oedd saith llew yn y ffau, a rhoddid iddynt bob dydd ddau ddyn a dwy ddafad. Ond y tro hwn ni roddwyd dim iddynt, er mwyn sicrhau eu bod yn traflyncu Daniel.

Achub Daniel o Ffau'r Llewod

33. Yr oedd y proffwyd Habacuc yn Jwdea. Yr oedd wedi berwi cawl, a malu briwsion bara yn y cawg, ac yr oedd ar ei ffordd i'r maes i'w ddwyn i'r medelwyr.

34. Dywedodd angel yr Arglwydd wrth Habacuc, “Dos â'r bwyd sydd gennyt i Fabilon, at Daniel yn ffau'r llewod.”

35. “F'arglwydd,” meddai Habacuc, “ni welais i Fabilon erioed, ac ni wn ble mae'r ffau.”

36. Ond cymerodd angel yr Arglwydd ef gerfydd ei gorun, gan afael yng ngwallt ei ben, a thrwy nerth ei anadl gosododd ef ym Mabilon uwchben y ffau.

37. “Daniel, Daniel,” gwaeddodd Habacuc, “cymer y bwyd a anfonodd Duw iti.”

38. Atebodd Daniel, “Cofiaist amdanaf, O Dduw. Ni chefnaist ar y sawl sy'n dy garu.”

39. Cododd Daniel a bwyta. Yna aeth angel yr Arglwydd â Habacuc yn ôl ar unwaith i'w le ei hun.

40. Daeth y brenin ar y seithfed dydd i alaru am Daniel. Wedi dod at y ffau ac edrych i mewn, dyna lle'r oedd Daniel yn eistedd.

41. Gwaeddodd y brenin â llais uchel, “Mawr wyt ti, O Arglwydd Dduw Daniel! Nid oes Duw arall ond tydi.”

42. Yna tynnodd ef i fyny, a thaflodd i'r ffau y rhai oedd wedi ceisio achos i'w ladd. Ac ar unwaith fe'u traflyncwyd hwy o flaen ei lygaid.