Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Husai yn Camarwain Absalom

1. Yna dywedodd Ahitoffel wrth Absalom, “Gad imi ddewis deuddeng mil o ddynion a mynd ar ôl Dafydd heno.

2. Dof ar ei warthaf pan fydd yn lluddedig a diymadferth, a chodaf arswyd arno, nes bod pawb sydd gydag ef yn ffoi; ni laddaf neb ond y brenin,

3. a dof â'r holl bobl yn ôl atat fel priodferch yn dod adref at ei phriod. Bywyd un yn unig sydd arnat ei eisiau; caiff gweddill y bobl lonydd.”

4. Yr oedd Absalom a holl henuriaid Israel yn gweld hwn yn gyngor da,

5. ond dywedodd Absalom, “Galwch Husai yr Arciad hefyd er mwyn inni glywed beth sydd ganddo yntau i'w ddweud.”

6. Wedi i Husai gyrraedd, dywedodd Absalom wrtho, “Dyma sut y cynghorodd Ahitoffel. A ddylem dderbyn ei gyngor? Onid e, rho di dy gyngor.”

7. Dywedodd Husai wrth Absalom, “Nid yw'r cyngor a roddodd Ahitoffel y tro hwn yn un da.”

8. Aeth Husai ymlaen, “Yr wyt ti'n adnabod dy dad a'i ddynion: y maent yn filwyr profiadol, ac mor filain ag arth wyllt wedi ei hamddifadu o'i chenawon; hefyd, y mae dy dad yn gynefin â rhyfela, ni fydd ef yn treulio'r nos gyda'r fyddin, ac y mae eisoes wedi ymguddio mewn ogof neu ryw lecyn arall.

9. Pan leddir rhywrai o blith dy filwyr ar y dechrau, bydd pwy bynnag a fydd yn clywed y newydd yn meddwl bod cyflafan wedi digwydd ymysg y rhai sy'n dilyn Absalom.

10. Yna fe fydd ysbryd y cryfaf, yr un â chalon fel llew, yn darfod yn llwyr, oherwydd y mae Israel gyfan yn gwybod mai milwr dewr yw dy dad, a bod dynion grymus gydag ef.

11. Yr wyf fi am dy gynghori i gasglu atat Israel gyfan o Dan i Beerseba, mor niferus â thywod glan y môr, a bod i tithau'n bersonol fynd gyda hwy i'r frwydr.

12. Ac fe ddown ar ei warthaf, ym mha le bynnag y ceir ef; disgynnwn arno fel gwlith yn syrthio ar y ddaear, ac ni adewir dim un ohonynt, ef na'r dynion sydd gydag ef.

13. Ac os digwydd iddo ddianc i ryw ddinas, bydd Israel gyfan yn taflu rhaffau am y ddinas honno a byddwn yn ei llusgo i'r ceunant, heb adael y garreg leiaf ohoni ar ôl.”

14. Dywedodd Absalom a'r holl Israeliaid, “Y mae cyngor Husai yr Arciad yn well na chyngor Ahitoffel.” Yr ARGLWYDD oedd wedi peri drysu cyngor da Ahitoffel, er mwyn i'r ARGLWYDD ddwyn dinistr ar Absalom.

Rhybuddir Dafydd i Ffoi

15. Dywedodd Husai wrth yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar, “Fel hyn ac fel hyn yr oedd cyngor Ahitoffel i Absalom a henuriaid Israel; ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau.

16. Anfonwch yn awr ar frys a dywedwch wrth Ddafydd, ‘Paid ag aros y nos wrth rydau'r anialwch, ond dos drosodd ar unwaith, rhag i'r brenin a'r holl bobl sydd gydag ef gael eu difa.’ ”

17. Yr oedd Jonathan ac Ahimaas yn aros yn En-rogel, a morwyn yn mynd â'r neges iddynt hwy, a hwythau wedyn yn mynd â'r neges i'r Brenin Dafydd; oherwydd ni feiddient gael eu gweld yn mynd i'r ddinas.

18. Ond fe welodd bachgen hwy, a dweud wrth Absalom; felly aeth y ddau ar frys nes dod i dŷ rhyw ddyn yn Bahurim. Yr oedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth ac aethant i lawr iddo.

19. Yna cymerodd ei wraig y caead a'i osod ar geg y pydew a thaenu grawn drosto, fel nad oedd neb yn gwybod.

20. Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ a gofyn i'r wraig, “Ple mae Ahimaas a Jonathan?” dywedodd hithau, “Y maent wedi mynd dros y ffrwd ddŵr.” Ond er iddynt chwilio, ni chawsant mohonynt, ac aethant yn ôl i Jerwsalem.

21. Wedi iddynt fynd, daethant hwythau i fyny o'r pydew a mynd â'r neges i'r Brenin Dafydd, a dweud wrtho am groesi'r dŵr ar unwaith, oherwydd bod Ahitoffel wedi cynghori fel y gwnaeth yn eu herbyn.

22. Dechreuodd Dafydd, a'r holl bobl oedd gydag ef, groesi'r Iorddonen, ac erbyn toriad gwawr nid oedd neb ar ôl heb groesi'r Iorddonen.

23. Pan welodd Ahitoffel na chymerwyd ei gyngor ef, cyfrwyodd ei asyn a mynd adref i'w dref ei hun. Gosododd drefn ar ei dŷ, ac yna fe'i crogodd ei hun. Wedi iddo farw, fe'i claddwyd ym medd ei dad.

24. Yr oedd Dafydd wedi cyrraedd Mahanaim erbyn i Absalom a holl filwyr Israel gydag ef groesi'r Iorddonen.

25. Yr oedd Absalom wedi gosod Amasa dros y fyddin yn lle Joab. Yr oedd ef yn fab i ddyn o'r enw Ithra'r Ismaeliad, a oedd wedi priodi Abigal ferch Nahas, chwaer Serfia mam Joab.

26. Gwersyllodd Israel gydag Absalom yn nhir Gilead.

27. Wedi i Ddafydd gyrraedd Mahanaim, daeth Sobi fab Nahas o Rabba'r Ammoniaid, a Machir fab Ammiel o Lo-debar, a Barsilai y Gileadiad o Rogelim

28. â gwelyau, powlenni a llestri; hefyd gwenith, haidd, blawd, crasyd, ffa, ffacbys,

29. mêl, ceulion o laeth defaid a chaws o laeth gwartheg. Rhoesant hwy i Ddafydd a'r bobl oedd gydag ef i'w bwyta, oherwydd meddent, “Bydd y bobl yn newynog a lluddedig, ac yn sychedig yn yr anialwch.”