Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Llofruddio Isboseth

1. Pan glywodd mab Saul fod Abner wedi marw yn Hebron, digalonnodd, ac yr oedd Israel gyfan mewn dryswch.

2. Yr oedd gan fab Saul ddau ddyn yn benaethiaid ar finteioedd; Baana oedd enw un a Rechab oedd enw'r llall. Meibion i Rimmon o Beeroth oeddent, ac aelodau o lwyth Benjamin.

3. Ystyrid bod Beeroth yn perthyn i Benjamin, er bod trigolion Beeroth wedi ffoi i Gittaim ac wedi aros yno hyd heddiw fel dyfodiaid.

4. Yr oedd mab gan Jonathan fab Saul oedd yn gloff yn ei draed. Pum mlwydd oed ydoedd pan ddaeth y newydd o Jesreel am Saul a Jonathan; cododd ei famaeth ef a ffoi, ond wrth iddi frysio i ffoi, fe syrthiodd ef a chael ei gloffi. Meffiboseth oedd ei enw.

5. Aeth Rechab a Baana, meibion Rimmon o Beeroth, i dŷ Isboseth yng ngwres y dydd, tra oedd ef yn gorffwys ganol dydd.

6. Yr oedd y wraig a oedd yn cadw drws y tŷ wedi bod yn glanhau gwenith, ond yr oedd wedi hepian a chysgu, a llithrodd Rechab a'i frawd heibio iddi.

7. Pan ddaethant i'r tŷ, yr oedd ef yn gorwedd ar ei wely yn ei ystafell gysgu, a thrawsant ef yn farw a thorri ei ben i ffwrdd, ac yna cymryd ei ben a mynd drwy'r nos ar hyd ffordd yr Araba.

8. Daethant â phen Isboseth at Ddafydd i Hebron, a dweud wrth y brenin, “Dyma ben Isboseth, mab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy fywyd. Rhoddodd yr ARGLWYDD ddial heddiw i'n harglwydd frenin ar Saul a'i blant.”

9. Ond atebodd Dafydd Rechab a'i frawd Baana, meibion Rimmon o Beeroth, a dweud, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD, a'm gwaredodd o bob cyfyngdra, yn fyw,

10. pan ddaeth un i'm hysbysu fod Saul wedi marw, gan dybio'i fod yn dwyn newydd da, fe gydiais ynddo a'i ladd yn Siclag; dyna a roddais i hwnnw am ei newyddion!

11. Pa faint mwy pan fo dynion drwg wedi lladd dyn cyfiawn yn ei gartref, ar ei wely? Oni fyddaf yn awr yn ceisio iawn am ei waed oddi ar eich llaw chwi, a'ch difa oddi ar y ddaear?”

12. Rhoddodd Dafydd orchymyn i'w lanciau, a lladdasant hwy, a thorri eu dwylo a'u traed i ffwrdd, a'u crogi wrth y pwll yn Hebron. Yna cymerwyd pen Isboseth a'i gladdu ym meddrod Abner yn Hebron.