Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Gwrthryfel Seba

1. Yr oedd yn digwydd bod yno ddihiryn o'r enw Seba fab Bichri, o lwyth Benjamin. Canodd ef yr utgorn a chyhoeddi,“Nid oes i ni gyfran yn Nafydd,nac etifeddiaeth ym mab Jesse.Pob un i'w babell, O Israel!”

2. Yna ciliodd yr Israeliaid oddi wrth Ddafydd, a dilyn Seba fab Bichri; ond glynodd y Jwdeaid wrth eu brenin bob cam, o'r Iorddonen i Jerwsalem.

3. Wedi i'r Brenin Dafydd gyrraedd Jerwsalem, cymerodd y deg gordderchwraig a adawyd i ofalu am y tŷ, a'u rhoi dan warchod; yr oedd yn rhoi eu cynhaliaeth iddynt, ond heb fynd i mewn atynt. A buont dan glo hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw fel gweddwon.

4. Yna dywedodd y brenin wrth Amasa, “Galw ynghyd ataf filwyr Jwda, a bydd yn ôl yma o fewn tridiau.”

5. Aeth Amasa i alw Jwda ynghyd, ond oedodd yn hwy na'r amser penodedig.

6. Ac meddai Dafydd wrth Abisai, “Yn awr bydd Seba fab Bichri yn creu mwy o helynt inni nag Absalom; cymer fy ngweision ac erlid ar ei ôl, rhag iddo gyrraedd dinasoedd caerog a diflannu o'n golwg.”

7. Dilynwyd Abisai gan Joab a'r Cerethiaid a'r Pelethiaid a'r holl filwyr profiadol, a gadawsant Jerwsalem i erlid ar ôl Seba fab Bichri. Pan oeddent wrth y maen mawr yn Gibeon, daeth Amasa i'w cyfarfod.

8. Yr oedd Joab wedi gwregysu'r fantell yr oedd yn ei gwisgo, a throsti yr oedd gwregys ei gleddyf a oedd mewn gwain wedi ei rhwymo ar ei lwynau; ac wrth iddo symud ymlaen, fe syrthiodd y cleddyf.

9. Wedi i Joab ddweud wrth Amasa, “Sut yr wyt ti, fy mrawd?” gafaelodd â'i law dde ym marf Amasa i'w gusanu.

10. Nid oedd Amasa wedi sylwi ar y cleddyf oedd yn llaw Joab, a thrawodd Joab ef yn ei fol nes i'w ymysgaroedd ddisgyn i'r llawr, a bu farw heb ail ergyd. Yna aeth Joab a'i frawd Abisai yn eu blaen ar ôl Seba fab Bichri.

11. Safodd un o lanciau Joab wrth y corff a dweud, “Pwy bynnag sy'n fodlon ar Joab, a phwy bynnag sydd o blaid Dafydd, canlynwch Joab.”

12. Yr oedd Amasa'n gorwedd yn bentwr gwaedlyd ar ganol yr heol, a phan welodd y dyn fod y bobl i gyd yn sefyll, symudodd Amasa o'r heol i'r cae a bwrw dilledyn drosto.

13. Yr oedd pawb a ddôi heibio wedi bod yn sefyll wrth ei weld; ond wedi iddo gael ei symud o'r heol, yr oedd pawb yn dilyn Joab i erlid ar ôl Seba fab Bichri.

14. Aeth Seba trwy holl lwythau Israel nes cyrraedd Abel-beth-maacha, ac ymgasglodd yr holl Bichriaid a'i ddilyn.

15. Pan gyrhaeddodd holl fyddin Joab, rhoesant warchae arno yn Abel-beth-maacha a chodi gwarchglawdd yn erbyn y ddinas, a thurio i ddymchwel y mur.

16. Yna safodd gwraig ddoeth ar yr amddiffynfa a gweiddi o'r ddinas, “Gwrandewch, gwrandewch, a dywedwch wrth Joab am iddo ddod yma i mi gael siarad ag ef.”

17. Daeth yntau ati, a gofynnodd y wraig, “Ai ti yw Joab?” “Ie,” meddai yntau. Yna dywedodd hi wrtho, “Gwrando ar eiriau dy lawforwyn,” ac atebodd yntau, “Rwy'n gwrando.”

18. Ac meddai hi, “Byddent yn arfer dweud ers talwm, ‘Dim ond iddynt geisio cyngor yn Abel, a dyna ben ar y peth.’

19. Un o rai heddychol a ffyddlon Israel wyf fi, ond yr wyt ti'n ceisio distrywio dinas sy'n fam yn Israel. Pam yr wyt am ddifetha etifeddiaeth yr ARGLWYDD?”

20. Atebodd Joab a dweud, “Pell y bo, pell y bo oddi wrthyf! Nid wyf am ddifetha na distrywio.

21. Nid felly y mae; ond dyn o fynydd-dir Effraim, o'r enw Seba fab Bichri, sydd wedi codi yn erbyn y Brenin Dafydd; dim ond i chwi ei roi ef imi, fe adawaf y ddinas.” Dywedodd y wraig wrth Joab, “Fe deflir ei ben iti dros y mur.”

22. Yna fe aeth y wraig yn ei doethineb at yr holl bobl; torrwyd pen Seba fab Bichri a'i daflu i Joab. Seiniodd yntau'r utgorn, gadawyd y ddinas, a gwasgarodd pawb i'w cartrefi. Dychwelodd Joab i Jerwsalem at y brenin.

Swyddogion Dafydd

23. Joab oedd dros holl fyddin Israel, a Benaia fab Jehoiada dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid.

24. Adoram oedd dros y llafur gorfod, a Jehosaffat fab Ahilud oedd y cofiadur.

25. Sefa oedd yr ysgrifennydd, a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid.

26. Yr oedd Ira y Jairiad hefyd yn offeiriad i Ddafydd.