Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 9:16-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. byddai'n addurno â rhoddion gwych iawn y deml sanctaidd a ysbeiliwyd ganddo gynt, ac yn dychwelyd y llestri cysegredig bob un ar raddfa lawer helaethach; a byddai'n talu o'i gyllid personol y costau a gyfrifid i'r aberthau.

17. Ar ben hynny fe ddôi yntau'n Iddew, ac ymweld â phob rhan o'r byd cyfannedd i gyhoeddi gallu Duw.

18. Ond ni bu dim pall ar ei boenau, oherwydd yr oedd barnedigaeth gyfiawn Duw wedi dod arno. Felly, mewn anobaith am ei gyflwr, ysgrifennodd at yr Iddewon y llythyr a welir isod. Natur ymbil sydd iddo, a dyma'i gynnwys:

19. “At yr Iddewon, fy ninasyddion teilwng, cyfarchion lawer ac iechyd a llwyddiant oddi wrth y brenin a'r cadfridog Antiochus.

20. Bydded i chwi a'ch plant ffynnu ac i'ch amgylchiadau fod wrth eich bodd.

21. A'm gobaith yn y nef, yr wyf yn galw i gof yn serchog eich parch a'ch ewyllys da. Pan oeddwn yn dychwelyd o barthau Persia, daeth gwaeledd beichus arnaf, a bernais mai rhaid oedd ystyried diogelwch cyffredinol pawb.

22. Nid wyf yn digalonni am fy nghyflwr; i'r gwrthwyneb, yr wyf yn llawn gobaith y caf ryddhad o'm gwaeledd.

23. Eto, yr wyf wedi ystyried y byddai fy nhad yntau, bob tro y byddai'n mynd â'i fyddin i'r taleithiau dwyreiniol, yn pennu ei olynydd,

24. er mwyn i drigolion y wlad, pe digwyddai rhywbeth annisgwyl neu pe cyrhaeddai rhyw adroddiad am ryw drafferth, beidio â chynhyrfu gan y byddent yn gwybod i bwy y byddai'r deyrnas wedi ei gadael.

25. Yr wyf hefyd wedi canfod bod rheolwyr y gwledydd cyfagos ar ffiniau fy nheyrnas yn disgwyl eu cyfle ac yn aros i weld beth a ddaw. Gan hynny, yr wyf wedi pennu fy mab Antiochus yn frenin. Yr wyf wedi ei ymddiried a'i gyflwyno fwy nag unwaith i'r rhan fwyaf ohonoch pan fyddwn yn ymweld â'r taleithiau dwyreiniol. Yr wyf yn anfon ato y llythyr a welir isod.

26. Gan hynny, yr wyf yn eich annog ac yn hawlio gennych ddwyn ar gof y cymwynasau a wneuthum â chwi yn gyffredinol ac yn unigol, a chadw, bob un ohonoch, yr ewyllys da sydd gennych tuag ataf fi ac at fy mab.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 9